Aeth y Panel Craffu Perfformiad Addysg, sy’n cynnwys Cynghorwyr Abertawe ac aelodau cyfetholedig Rhiant-lywodraethwyr, i ymweld ag Uned Cyfeirio Disgyblion Maes Derw i gwrdd â’r staff ac i weld y cyfleuster.
Ysgol yw Maes Derw sydd wedi’i dylunio a’i staffio i gefnogi rhai o bobl ifanc mwyaf diamddiffyn Abertawe, lle cânt eu cefnogi i aros mewn ysgolion yn eu cymunedau neu i ddychwelyd iddynt. Cynigir cwricwlwm eang i ddisgyblion yn ogystal â hyfforddiant galwedigaethol er mwyn rhoi rhagor o gyfleoedd iddynt. Mae gan lawer o’r disgyblion anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol cymhleth sydd, os nad eir i’r afael â hwy’n llawn, yn lleihau eu cyfleoedd o gael swydd yn y dyfodol ac yn effeithio ar eu lles.
Ar ddiwedd yr ymweliad, dywedodd y panel eu bod yn croesawu dyluniad a chynllun y cyfleuster newydd ac roedd brwdfrydedd ac ymroddiad yr holl staff wedi creu argraff arbennig arnynt. Roeddent yn teimlo bod gwaith yr UCD yn ysbrydoledig ac roedd y panel yn gwerthfawrogi’r gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i fywydau rhai o’r disgyblion mwyaf diamddiffyn yn Abertawe.
Leave a Comment