Holi Arweinydd Cyngor Abertawe

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu wedi parhau i ddal aelodau’r cabinet i gyfrif ac yn ddiweddar cynhaliwyd sesiwn Holi ac Ateb gydag Arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, i archwilio blaenoriaethau a chyflawniadau mewn perthynas â rhai meysydd cyfrifoldebau ei bortffolio.

Darparodd yr Arweinydd adroddiad a oedd yn canolbwyntio ar faterion a oedd o ddiddordeb i’r pwyllgor ac yn achosi pryder iddynt:

  • Yr ymateb i COVID-19 a chynllunio adferiad.
  • Brexit, perthnasoedd economaidd newydd a’r agenda ‘Codi’r Gwastad’ ehangach.
  • canol y ddinas
  • Bargen Ddinesig Bae Abertawe a rhaglenni a phrosiectau adfywio eraill ar draws Abertawe.
  • Cyllideb
  • Diweddariad ar raglen Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru
  • gweithio mewn partneriaeth

Dyma grynodeb o’r hyn a drafodwyd, ond gallwch weld yr holl fanylion ac adroddiadau a gyflwynwyd yn y cyfarfod hwn drwy glicio yma.

Siaradodd y Cynghorydd Stewart am y perygl y bydd Brexit yn cael effaith hyd yn oed yn fwy na phandemig COVID, a phryderon y bydd Cymru’n colli allan, gydag effaith negyddol ar ein heconomi. Pe bai Cymru wedi aros yn rhan o’r UE, byddai wedi bod yn derbyn tua £375m o gyllid yr UE yn flynyddol. Hyd yn hyn, cyfran Cymru o’r arian ers gadael yr UE yw ychydig dros £40m ar gyfer 2021/22. Clywodd y Pwyllgor fod Abertawe, o’r arian hwn wedi gwneud cais llwyddiannus am Gronfa Adfywio Cymunedol gwerth £2,47,029 ar gyfer wyth prosiect. Adroddodd y Cyng. Stewart fod y manylion ynghylch Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a rhaglen ariannu ‘Codi’r Gwastad’ Llywodraeth y Du heb gael eu cyhoeddi eto, ond bod pryderon y gall fod diffyg o £100m.

Nododd Aelodau’r Pwyllgor fod sicrwydd yn cael ei geisio drwy’r CLlLC gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac y bydd Cymru’n derbyn y lefel flaenorol o gyllid yr UE roedd yn ei derbyn cyn i’r DU adael yr UE, ac y bydd y cyngor yn parhau i lobio Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n derbyn cyfran deg gan Lywodraeth y DU.

Mynegodd Aelodau’r Pwyllgor bryderon ynghylch y nifer cynyddol o siopau/unedau gwag, a’r effaith ar Abertawe fel canolfan siopa. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch dyfodol uned Debenhams yn y Cwadrant, a chynlluniau ehangach i wella Abertawe fel canolfan siopa. Esboniodd y Cyng. Stewart fod 7 siop wag yn y Cwadrant, ac mae 4 ohonynt bellach wedi’u hail-osod ac roedd trafodaethau’n parhau mewn perthynas â Debenhams. Ychwanegodd y dylai’r buddsoddiadau a’r rhaglen adfywio ddenu mwy o ymwelwyr i ganol y ddinas, a fydd yn ei dro yn denu siopau a busnesau newydd.

Clywodd y Pwyllgor fod y pandemig wedi effeithio ar pob canol dinas, gyda sawl cwmni cenedlaethol yn methu – fodd bynnag, pwysleisiodd y Cyng. Stewart fod Abertawe wedi goresgyn swm sylweddol o hynny a nododd fod y buddsoddiadau niferus a oedd yn parhau yn y ddinas yn helpu i wneud Abertawe’n lle deniadol i ymweld â hi a buddsoddi ynddi.

Adroddodd y Cyng. Stewart fod gwaith yn parhau mewn perthynas â datblygu rhaglen Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru, mai prosiect rhanbarthol yw hwn sy’n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, a’i fod yn ceisio datblygu system cludiant cyhoeddus integredig a fydd yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau fel rheilffyrdd trwm, tram, rheilffyrdd ysgafn a bysus. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2021. Bydd y camau nesaf yn cynnwys datblygu achos busnes llawn. Dywedodd y Cyng. Stewart wrth y Pwyllgor y bydd y prosiect yn cael ei barhau gan Gyd-bwyllgor Corfforaethol newydd De-orllewin Cymru, ac y byddai datganiadau pellach am gynnydd yn cael eu gwneud maes o law.

Croesawodd y Pwyllgor yr uchelgais a’r buddion posib i’r ddinas a’r ardal ehangach.

I gael y diweddaraf am waith Pwyllgor y Rhaglen Graffu, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr misol yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.