Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk
Cyfarfu’r Panel Ymchwiliad Craffu’n ddiweddar i edrych ar effaith a chynnydd yr argymhellion a wnaed fel rhan o’r Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau.
Roedd Aelodau’r Panel yn falch o glywed fod Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2020/24 wedi’i ddatblygu a bod Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau’r Dyfodol newydd wedi’i sefydlu, a chanddo gyfrifoldeb allweddol am gamau gweithredu ac argymhellion o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’r Ymchwiliad Craffu.
Roedd y Panel yn croesawu’r ffaith bod Cyngor Abertawe a holl aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi llofnodi eu bwriad i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol. Roedd Aelodau’r Panel yn falch o glywed yr ymgysylltwyd â nifer mawr o bobl eisoes, gan gynnwys grwpiau cymunedol.
Clywodd y Panel, er mwyn cyflawni’r uchelgais o ddod yn Ddinas Hawliau Dynol, y bydd angen i hawliau dynol fod yn sylfaen i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau. Sefydlwyd pwyllgor llywio i hyrwyddo’r nod hwn.
Mewn ymateb i’r argymhelliad i wella data am ein gweithlu, sefydlwyd Gr?p Cydraddoldeb y Gweithlu newydd i gefnogi’r gwaith o ddarparu atebion cydraddoldeb, er mwyn cefnogi’r cyngor i fod yn gyflogwr rhagorol.
Roedd Aelodau’r Panel yn fodlon ar y gwaith a wnaed yn gyffredinol mewn perthynas ag 18 o argymhellion yr Ymchwiliad, a chydnabuwyd bod pandemig COVID-19 yn dal i gyflwyno heriau sylweddol i’r cyngor, a bod nifer o swyddogion wedi gorfod newid eu ffocws i sicrhau bod gwasanaethau’r cyngor yn cael eu cynnal.
Clywodd y Panel fod saith o’r argymhellion bellach wedi’u cwblhau ac y gwnaed cynnydd da gyda’r argymhellion hynny sy’n weddill.
Cytunodd y Panel i ddod â’u cyfranogaeth ddilynol gyda’r ymchwiliad i ben gan eu bod yn fodlon ar y cynnydd da a wnaed gyda’r holl argymhellion. Fodd bynnag, bydd y Panel yn crybwyll hyn i Bwyllgor y Rhaglen Graffu i awgrymu y dylid creu Gweithgor i ymchwilio i’r mater o gydgynhyrchu a sut mae’n datblygu.
Roedd y Panel yn falch o’r effaith gadarnhaol y mae’r ymchwiliad, ac ymrwymiad Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell a swyddogion iddo, wedi’i chael i helpu i symud yr agenda bwysig hon yn ei blaen yn Abertawe.
Cliciwch yma i weld yr holl fanylion a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.
Leave a Comment