Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Adolygodd Cynghorwyr Craffu’r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2021/22 a oedd yn cyflwyno’r canlyniadau perfformiad wrth gyflawni amcanion a blaenoriaethau lles y cyngor.
Adroddwyd bod pandemig parhaus COVID-19 wedi dod â heriau a newidiadau enfawr i’r cyngor, ei wasanaethau a’i weithlu. Effaith y pandemig ar adrodd a’r effaith anochel a sylweddol ar y meysydd adrodd perfformiad arferol ar draws y cyngor.
Clywodd y Panel fod 81% o ddangosyddion wedi gwella neu wedi aros yr un fath yn ystod Ch1, ac mae ymateb y cyngor i’r pandemig, er nad yw o reidrwydd wedi’i adlewyrchu yn y dangosyddion perfformiad sefydledig, wedi bod yn rhyfeddol.
Holodd y Panel ynghylch rhai dangosyddion a pham eu bod wedi’u gwella mewn amgylchiadau mor niweidiol, gan ofyn sut mae dangosyddion yn cael eu dewis. Esboniodd swyddogion fod y dangosyddion yn helpu i fesur blaenoriaethau o fewn y cynllun corfforaethol ac yn cael eu dewis yn benodol at y diben hwnnw.
Clywodd Aelodau’r Panel fod Ch1 2020/21 yn anterth y pandemig ac felly bu lleihad yn nifer y bobl a oedd yn dod yn ddigartref oherwydd ataliwyd gweithdrefnau troi allan. Cafodd hyn effaith uniongyrchol ar ddata’r cyngor a’r dangosyddion tebyg.
Mynegodd Aelodau’r Panel eu pryderon ynghylch defnydd cyffredinol y term ‘mynd i’r afael â thlodi’ fel disgrifydd, gan awgrymu y dylid adolygu’r term hwn yn y dyfodol agos.
Nododd y Panel yr ystadegyn yngl?n â ‘Nifer y toriadau data sydd wedi arwain at gyhoeddi hysbysiad gorfodi neu gosb ariannol gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth’ – ac roedd y canlyniadau hyn yn sero – roedd Aelodau’r Panel yn teimlo eu bod yn adlewyrchiad trawiadol o’r cyngor.
Cliciwch yma i weld recordiad o’r holl fanylion a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.
Leave a Comment