Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk
Cyfarfu Cynghorwyr Craffu ar Banel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion yn ddiweddar i drafod sut mae’r gwasanaeth yn ymdopi drwy COVID, a bu’n canolbwyntio ar Raglen Cefnogi’r Gweithlu sydd ar waith ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion.
O ran rheoli’r pandemig, clywodd y panel er bod y gyfarwyddiaeth yn ymdopi, fod pethau’n anodd o hyd ac mae’r drydedd don yn cael effaith sylweddol. Breuder Gofal Cartref sydd wedi taro’r Gyfarwyddiaeth waethaf, yn enwedig y gweithlu.
Clywodd y Panel er bod y rhestr aros ar gyfer gofal cartref tymor hir wedi lleihau, mae’r sefyllfa ymhell o fod yn ddelfrydol. Mae’r rhestr yn cynnwys unigolion a chanddynt ofal ond nid y math iawn o ofal, ac mae’r Gyfarwyddiaeth yn gweithio gyda theuluoedd a gofalwyr i geisio dod o hyd i ddewisiadau amgen hyd at fis Chwefror 2022. Clywodd aelodau’r Panel fod nifer bach o unigolion yn gorfod ystyried gofal preswyl gan nad yw’r awdurdod yn gallu darparu’r gofal cartref y mae ei angen arnynt.
Clywodd y Panel, ar ôl sylweddoli bod problem gyda salwch, mai’r Gwasanaethau Cymdeithasol oedd y cyntaf i dreialu Swyddog Adnoddau Dynol dynodedig i gefnogi staff i ddychwelyd i’r gwaith a chefnogi staff sy’n wynebu pwysau o fewn timau. Roedd aelodau’r panel yn falch o glywed bod hyn wedi arwain at ostyngiad mewn lefelau salwch yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ond mynegwyd pryder bod y sector preifat wedi dioddef problemau tebyg gyda staffio a holwyd a yw’r awdurdod wedi rannu’i arferion. Sicrhawyd Aelodau’r panel er bod gan gartrefi preifat eu trefniadau llywodraethu eu hunain ar waith, y gallant droi at ein gwasanaethau comisiynu am gyngor a bod yr awdurdod yn sicrhau wrth recriwtio nad yw staff yn cael eu cymryd o gartref preifat.
Canmolodd aelodau’r Panel yr holl aelodau staff sy’n parhau i orfod ysgwyddo baich mawr ac sy’n gwneud gwaith anhygoel mewn amgylchiadau anodd iawn, gan fynegi eu diolch a’u gwerthfawrogiad iddynt.
Leave a Comment