Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk
Mae Cynghorwyr Craffu wedi canmol gwaith caled staff sy’n ymwneud â sbwriel a glanhau’r gymuned, sydd wedi gorfod ymdrin â symiau digynsail o sbwriel a gweithio dan gyfyngiadau oherwydd y pandemig.
Mewn cyfarfod diweddar, bu Pwyllgor y Rhaglen Graffu’n canolbwyntio ar ‘Sbwriel a Glanhau’r Gymuned’ sy’n rhan o bortffolio’r Cyng. Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd.
Clywodd y Pwyllgor fod y gwasanaeth yn dal i fyny o hyd a bod staff ychwanegol wedi’u cyflogi i ymdrin â materion a gwella’r gwasanaeth.
O ran Gorfodi Sbwriel a Gwastraff, nododd yr Aelodau’r anawsterau mewn perthynas â gorfodi o ran dal pobl wrthi, ond croesawont y newyddion bod rhagor o swyddogion wedi’u hyfforddi i’w hawdurdodi i roi Hysbysiadau o Gosb Benodol i unrhyw un maen nhw’n ei weld yn gollwng sbwriel neu’n peidio â chodi baw ei gi.
Canmolwyd ymgyrch ‘Paid â thaflu sbwriel’ y cyngor gan y pwyllgor am dynnu sylw pobl ond teimlai’r pwyllgor fod angen mwy o negeseuon ar gyfer y cyhoedd i atal pobl rhag taflu sbwriel ac i ddangos pa mor ddifrifol y mae’r cyngor ynghylch sbwriel.
Trafododd Aelodau’r Pwyllgor Flaenoriaeth Gorfforaethol y cyngor ar ‘Gynnal a Gwella Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth Abertawe’ ac roeddent yn falch o’r gydnabyddiaeth fod mynd i’r afael â sbwriel a’i leihau yn cael effaith uniongyrchol ar gyfoethogiad a thwf rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid. Gofynnodd y Pwyllgor i ba raddau yr ystyrir sbwriel ar y traeth a sut y tynnir sylw’r cyhoedd at yr effaith y mae taflu sbwriel yn ei chael ar yr amgylchedd.
Esboniodd y Cyng. Thomas na fu unrhyw weithgarwch cysylltiadau cyhoeddus penodol ynghylch sbwriel a bywyd gwyllt ond mae adroddiadau yn y wasg genedlaethol a lleol wedi helpu i addysgu pobl a newid ymddygiad. Mae e’ wedi cytuno i edrych ar yr hyn y gallai’r cyngor ei wneud i rybuddio pobl am effaith sbwriel ar fywyd gwyllt.
Clywodd y Pwyllgor am yr Arolwg o Systemau Archwilio a Rheoli Amgylcheddol Lleol (LEAMS) a ddefnyddir ar draws Cymru i gynghorau raddio glendid eu strydoedd. Fe’i gwiriwyd yn annibynnol gan Cadwch Gymru’n Daclus a alluogodd gymhariaeth â chynghorau eraill yng Nghymru.
Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed bod Abertawe’n gwneud yn dda o’i chymharu ag awdurdodau eraill, gyda 94% o strydoedd wedi’u graddio’n B neu uwch sy’n golygu eu bod gan amlaf yn glir o sbwriel a gwastraff. Trafododd aelodau’r Pwyllgor yr anhawster fodd bynnag o fesur perfformiad a dibyniaeth ar yr arolwg, o gofio bod cynghorwyr yn aml yn derbyn cwynion am sbwriel.
Bydd y Cyng. Mark Thomas yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r pwyllgor am yr arolwg LEAMS i helpu i wella’u dealltwriaeth o’r gwaith hwn a’i ddefnydd.
Trafododd y Pwyllgor hefyd y defnydd o Gyllidebau Cymunedol Cynghorwyr mewn rhai wardiau ar gyfer gwasanaethau glanhau ychwanegol a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar ddarparu gwasanaethau cyffredinol ar draws meysydd eraill y cyngor. Sicrhawyd y Pwyllgor gan y Cyng. Thomas fod unrhyw wasanaethau y telir amdanynt o gyllidebau cymunedol ar gyfer gwaith ychwanegol, sy’n ychwanegol at y drefn lanhau arferol a ddarperir gan y cyngor ac nid oeddent yn lleihau lefel y gwasanaethau a ddarperir mewn meysydd eraill.
Gofynnodd y pwyllgor am ragor o wybodaeth i gael ei dosbarthu i bob cynghorydd fel eu bod yn ymwybodol o’r cyfleodd ar gyfer glanhau ychwanegol a’r costau sydd ynghlwm wrth hyn.
Cliciwch yma i weld rhagor am yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.
Leave a Comment