Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk
Roedd Cynghorwyr Craffu’n falch o glywed am y dyheadau ar gyfer buddsoddi yn y sector Technoleg Feddygol a Thechnoleg Chwaraeon, gyda’r bwriad o ddarparu cyfleoedd i gwmnïau gydweithio gyda Phrifysgol Abertawe.
Yn eu cyfarfod yn gynnar ym mis Medi, cyfarfu’r Panel Craffu Datblygu ac Adfywio â Phrofost Prifysgol Abertawe a’r Deon Gweithredol/Dirprwy Is-Ganghellor a ddarparodd ddiweddariad ar ddatblygiadau’r Fargen Ddinesig yng Nghyd-destun Prifysgol Abertawe.
Clywodd y Panel y disgwylir i ddatblygiadau Prifysgol Abertawe, dan gynigion ar gyfer safleoedd Sgeti a Threforys y Brifysgol, feithrin gr?p o hyd at 300 o gwmnïau ac oddeutu 1,000 o swyddi newydd, gan greu lle i gwmnïau weithio ochr yn ochr â chlinigwyr i ddatblygu triniaethau a thechnoleg newydd. Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol a Chyngor Abertawe i wella mynediad ffordd ac isadeiledd o gwmpas safle Treforys.
Holodd aelodau’r Panel y swyddogion ynghylch cyfanswm cyllid y Fargen Ddinesig sy’n cael ei glustnodi i Brifysgol Abertawe ac, ar wahân, i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Darparodd swyddogion ddadansoddiad i’r panel er eglurhad.
Clywodd y Panel na fydd cynllun Pentref Blwch gwreiddiol PCYDDS yn mynd yn ei flaen a bydd cynllun newydd yn cymryd ei le. Bwriedir i ail gynllun PCYDDS, yr Ardal Arloesedd, symud i ganol y ddinas. Gofynnodd aelodau ble byddai’r ardal hon yng nghanol y ddinas, ac esboniodd swyddogion nad yw hyn wedi’i gadarnhau eto.
Holodd aelodau’r panel hefyd am y swm o £15m ar gyfer prosiect Iechyd Prifysgol Abertawe, a’i chynhwysiad yng nghlustnodiad gwreiddiol y Fargen Ddinesig, a chlywyd bod ffigur tebyg i’r Drindod Dewi Sant, ond ar wahân, wedi’i glustnodi i’r prosiect Iechyd.
Gallwch weld yr holl fanylion a drafodwyd yn y cyfarfod hwn a diweddariadau ar brosiectau eraill y Fargen Ddinesig yma.
Leave a Comment