Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk
Yn ddiweddar, ystyriodd y Panel Craffu’r yr Amgylchedd Naturiol y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag ymateb y cyngor i glefyd coed ynn a nodau ar gyfer y dyfodol.
Clefyd sy’n effeithio ar goed ynn yw clefyd coed ynn, ac mae’n achosi iddynt fynd yn fregus dros amser, gyda changhennau’n torri i ffwrdd o brif gorff y goeden. Os nad ymdrinnir â nhw, mae’r coed mewn perygl o gwympo ac yn cyflwyno perygl dybryd i’r ardal gyfagos. Mae’r cyngor wedi cynnal arolwg o diroedd y cyngor ac wedi’u categoreiddio yn ôl pedwar categori, gyda chategorïau tri a phedwar fel y rhai â’r risg uchaf. Torrwyd cannoedd o goed sy’n peri risg i’r cyhoedd, er enghraifft y rheini ar briffyrdd ac mewn parciau a mynwentydd.
Cwestiynodd y Panel y Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, ar yr hyn y mae’r cyngor yn ei wneud o ran ail-blannu a pha goed sy’n cael eu hail-blannu. Clywodd Aelodau’r Panel os oes angen cael gwared ar un onnen o fewn clwstwr neu goetir, caniateir i natur wneud ei gwaith ac ni fyddai unrhyw goed yn cael eu hail-blannu ar y safle hwnnw. I wrthbwyso cael gwared ar goed, mae gan y cyngor raglen plannu coed newydd ar waith lle caiff coed o rywogaethau brodorol naturiol a chymysg eu plannu i sicrhau bod unrhyw glefydau sy’n effeithio ar goed yn naturiol yn y dyfodol yn effeithio ar goed unigol o fewn clwstwr yn unig.
Roedd gan y Panel ddiddordeb mewn clywed am ymchwil cynnar sy’n dangos y gall fod gan 5%-10% o goed ymwrthedd genetig i glefyd coed ynn. Esboniodd Swyddogion fod y cyngor yn cwblhau arolygon blynyddol i gadarnhau ac adolygu cyflwr parhaus y coed sydd ar dir sy’n eiddo i’r cyngor, gan felly osgoi’r angen i dorri coed os oes modd eu hachub o gwbl.
Gofynnodd Aelodau’r Panel am raddau’r ymchwil sy’n cael ei gwneud o ran yr ymwrthedd genetig posib hwn. Esboniodd Swyddogion fod rhai o dîm Cyngor Abertawe’n rhan o brosiectau cenedlaethol ehangach i ddarparu samplau at ddibenion ymchwil ehangach ar draws y DU.
Gofynnodd Aelodau’r Panel a oes unrhyw waith ymgysylltu’n mynd rhagddo ar hyn o bryd i roi gwybod i aelodau’r cyhoedd pam bod y coed yn cael eu torri. Esboniodd Swyddogion y cyfathrebwyd â’r cyhoedd yn helaeth ar gyfryngau cymdeithasol a’r wefan a bod hysbysfyrddau’n cael eu defnyddio lle bo gweithrediadau torri coed mawr yn cael eu cynnal. Roedd Aelodau’r Panel yn teimlo y gall fod arwyddion parhaol yn fwy effeithiol fel bod gwybodaeth hefyd ar gael yn dilyn y gweithrediadau torri.
Cyflwynodd Aelodau’r Panel syniadau ar gyfer ymgysylltu’n fwy â’r cyhoedd ac argymhellwyd y dylid dosbarthu gwybodaeth ar weithrediadau torri mawr i’r holl gynghorwyr fel eu bod yn ymwybodol ohonynt.
Cliciwch yma i weld yr holl fanylion a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.
Leave a Comment