Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk
Adolygwyd Adroddiad Arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Gartref Gofal Plant T? Nant gan Gynghorwyr Craffu ar Banel y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Teimlai’r panel ei fod yn ddogfen a oedd yn peri pryder gyda nifer o gamau gweithredu ar gyfer y gwasanaeth, ond roedd cynllun gweithredu’r adran wedi tawelu eu meddyliau.
Nododd yr adroddiad nifer o faterion a heriau yr oedd yr adran wedi’u rhagweld yn barod gan gynnwys Sicrhau Ansawdd, a amlygwyd fel maes i’w wella. Tynnwyd sylw hefyd yn yr adroddiad at y diffyg hyfforddiant i staff gofal mewn perthynas â’r technegau therapiwtig a ddisgrifir yn natganiad o fwriad y cartref ac mae hyn yn gofyn am gyfleoedd dysgu ychwanegol.
Esboniodd swyddogion fod hyfforddi staff wedi bod yn anodd yn y 18 mis diwethaf, nid yn unig oherwydd COVID ond hefyd yn sgîl prinder staff a oedd wedi’i wneud yn anodd mynd â staff oddi ar rotâu i fynd i sesiynau hyfforddiant.
Holodd y panel pam na ddarparwyd hyfforddiant i staff ar-lein a chlywyd er y darparwyd hyfforddiant ar-lein, ni ddarparwyd yr ehangder o bynciau a oedd yn ofynnol.
Cododd aelodau’r panel bryder ei fod wedi cymryd AGC i dynnu sylw at y problemau. Esboniodd swyddogion fod yr adran eisoes yn ymwybodol o lawer o’r pethau y tynnwyd sylw atynt yn yr adroddiad ond bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un anodd iawn i roi newidiadau ar waith wrth ymdrin â’r pandemig.
Sicrhawyd y panel fod swyddogion yn gweithio drwy’r cynllun gweithredu’n drylwyr, y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi, ac mae swyddogion yn hyderus y caiff y targed hwn ei daro.
Bydd AGC yn ymweld â’r cartref eto’n fuan a bydd y Panel yn adolygu’r cynnydd gyda’r cynllun gweithredu yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2021 i sicrhau bod pethau’n mynd i’r cyfeiriad cywir.
Gellir gweld manylion y cyfarfod hwn yma.
Leave a Comment