Roedd Cynghorwyr Craffu ar y Panel Datblygu ac Adfywio’n falch o glywed bod ymgynghoriadau â grwpiau anabledd yn Abertawe wedi eu cynnal, ac o ganlyniad mae eu barn wedi cael ei hystyried wrth ddylunio a gosod Pont Prosiect Adfywio Bae Copr.
Cyfarfu’r Panel ar 1 Gorffennaf i drafod Adroddiad Diweddaru Prosiect Adfywio Dinas Abertawe gyda’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth.
Clywodd y Panel y cafwyd rhywfaint o fân oedi yng nghynnydd Bae Copr – Cam 1, er mae’n datblygu’n dda gan ystyried yr oedi a gafwyd oherwydd effeithiau’r cyfyngiadau symud.
Mewn perthynas â datblygiad y gwesty, mynegodd Aelodau rai pryderon ynghylch yr oedi mewn cytuno ar gyllid. Cadarnhaodd Swyddogion fod y cyngor yn archwilio opsiynau ariannu ac mai’r gweithredwr a ffefrir ar hyn o bryd yw brand gwesty enwog â chysylltiadau rhyngwladol.
Roedd aelodau’r Panel yn falch o glywed mai busnesau bwyd/diod lleol fyddai’n rheoli pob uned a osodir gan y cyngor yn ardal yr Arena, ac nid oedd y cyngor wedi targedu unrhyw weithredwyr cenedlaethol.
O ran troi Wind Street yn barth i gerddwyr, clywodd Aelodau fod y rhan fwyaf o’r palmentydd bellach wedi’u disodli neu eu hail-osod, mae celfi stryd newydd yn cael eu gosod cyn bo hir ac mae’r elfennau tirlunio yn datblygu.
Awgrymodd aelodau’r Panel y defnydd o lwybrau gwybodaeth a chodau QR ledled yr ardal, fel ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr. Gwnaeth Swyddogion ystyried yr awgrymiadau hyn a chytuno y byddai’r syniadau hyn yn cael eu harchwilio yn y dyfodol.
Mae’r Cyng. Jeff Jones, Cynullydd y Panel, wedi ysgrifennu at y Cyng. Francis-Davies i fyfyrio ar y trafodaethau a gynhaliwyd, ac yn gofyn am ymateb ysgrifenedig sy’n cynnwys y canlynol: rhagor o wybodaeth, trosolwg o’r cynnydd mewn costau a amlygwyd gan swyddogion mewn perthynas â phrosiect y Bont Wrthbwys yng Nghoridor Glannau’r Tawe.
Cliciwch yma i weld y llythyr a’r ymateb unwaith y caiff ei dderbyn gan Aelod y Cabinet. I gael y diweddaraf am gyfarfodydd y Panel hwn yn y dyfodol, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr yma.
Leave a Comment