Er gwaethaf heriau 2020-2021 yn sgîl cyfyngiadau’r pandemig, mae’r cyngor wedi parhau i wneud gwelliannau wrth weithredu Safonau’r Gymraeg.
Cyfarfu’r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid ar ddiwedd mis Mehefin i drafod Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2020-21. Esboniodd swyddogion mai nod yr adroddiad yw tynnu sylw at ddiweddariadau ar draws y pedwar Gr?p Safonau:
- Cyflwyno gwasanaethau
- Llunio polisïau
- Gweithredol
- Safonau hyrwyddo a chadw cofnodion
Mae’r safon cyflwyno gwasanaethau yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a dyma’r prif faes y derbynnir cwynion ar ei gyfer hefyd. Adolygwyd a diweddarwyd y weithdrefn gwynion i adlewyrchu adborth defnyddiol a gafwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a’r Ombwdsmon.
Roedd y Panel yn falch o glywed y bu cynnydd o hanner miliwn o eiriau yn y swm a gyfieithwyd gan yr Uned Gyfieithu o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Holodd aelodau’r Panel a oedd y gwasanaeth bellach wedi cyrraedd y pwynt o sicrhau’r effeithlonrwydd mwyaf posib. Esboniodd swyddogion fod hwn yn wasanaeth ar y cyd â Chyngor Castell-nedd Port Talbot a bydd yn cael ei adolygu’n ddiweddarach eleni. Ychwanegodd swyddogion ei fod yn annhebygol y bydd unrhyw arbedion pellach i’r gwasanaeth.
Mae’r cyngor yn bwriadu adolygu a ellir recriwtio rhagor o swyddi â sgiliau Cymraeg gorfodol, cwestiynodd aelodau’r Panel yr effaith bosib ar recriwtio. Sicrhaodd swyddogion y Panel na fydd hyn yn berthnasol i bob swydd, yn seiliedig ar sgiliau a’r farchnad swyddi, er y gellid gwneud y Gymraeg yn orfodol ar gyfer rhai swyddi yn y dyfodol. Mynegodd y Panel bryderon ynghylch a allai hyn effeithio ar yr ymgeiswyr cywir yn cyflwyno ceisiadau am y swyddi hyn. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y byddai sylw’n cael ei roi i’r strategaeth bum mlynedd, gan wella hyfforddiant i staff presennol.
Canmolodd y Panel yr Uned Gyfieithu am chwarae rhan bwysig wrth ymateb i’r pandemig, gan gyfieithu llawer iawn o wybodaeth o fewn terfynau amser tynn. Roedd y Panel yn cydnabod gwaith caled ac ymdrechion staff, sy’n gweithio’n gyflym i gyflawni gwaith o fewn targedau uchelgeisiol.
I ddarllen yr adroddiad a gyflwynwyd yn y cyfarfod hwn, cliciwch yma.
Leave a Comment