Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwchcraffu@abertawe.gov.uk
Caffael yw’r prif ffocws ar gyfer yr ymchwiliad. Y cwestiwn allweddol felly yw:Beth y mae Cyngor Abertawe’n ei wneud i sicrhau ei fod yn caffael yn lleol, yn foesegol ac yn wyrdd wrth fod yn gost-effeithiol ac yn dryloyw yn ei arferion?
Rhesymau dros wneud y darn hwn o waith?
Mae cynghorwyr yn dewis gwneud y darn hwn o waith oherwydd eu bod am ei wneud
- Sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau dan unrhyw ofynion
- Sicrhau bod Cyngor Abertawe’n caffael yn lleol, yn foesegol ac yn wyrdd wrth fod yn gost-effeithiol ac yn dryloyw yn ei arferion
I helpu i ddeall y materion hyn ac ateb rhai o’r cwestiynau rydym yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifenedig ar y llinellau ymholi canlynol:
Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar gaffael mewn perthynas â darparu swyddogaethau’r cyngor. Bydd hefyd yn ystyried beth y mae’r cyngor yn ei wneud yn dda a’r hyn y gellid ei wella yn y maes hwn.
Bydd hyn yn cynnwys:
- Deddfwriaeth/polisi gan gynnwys dylanwadau cenedlaethol, lleol ac Ewropeaidd ar ein harfer caffael: Pa fframwaith deddfwriaethol a pholisi a ddefnyddir ym mhrosesau caffael y cyngor? Sut rydym yn sicrhau tryloywder, cynaladwyedd a gonestrwydd da ym mhopeth a wnawn? Sut bydd Brexit yn effeithio/dylanwadu ar gaffael i Abertawe?
- Caffael cymdeithasol/lleol cadarnhaol: Beth yw’n strategaeth, ein gweledigaeth, ein nodau a’n hamcanion yn y maes hwn? Pa mor dda yw ein perfformiad yn erbyn y rheini? Er enghraifft ein Polisi Buddion Cymdeithasol a Chymunedol gan gynnwys Y Tu Hwnt i Frics a Morter a chymalau mewn contractau Sut ydym yn sicrhau uchafswm gwariant yn yr economi leol.
- Arferion caffael amgylcheddol a moesegol: Beth yw ein strategaeth, ein gweledigaeth, ein nodau a’n hamcanion yn y maes hwn? Sut ydym yn perfformio yn erbyn y rhain? Er enghraifft, sut rydym yn ystyried cenedlaethau’r dyfodol a’n heffaith ar newid yn yr hinsawdd yn ein harfer caffael?
- Dyletswydd Cydraddoldeb: Ydyn ni’n sicrhau ein bod ni a’r rheini rydym yn caffael pethau oddi wrthyn/gyda hwy yn bodloni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb gyffredinol fel y’i nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru 2011)
- Systemau/prosesau a chysondeb ymagwedd: A oes systemau/arferion/prosesau effeithiol ac effeithlon ar waith ar draws y cyngor i alluogi arfer caffael effeithiol? A yw swyddogion y cyngor yn defnyddio’r arferion hyn yn gyson?
- Gweithgareddau caffael ar y cyd a gweithio gydag eraill: Caffael gydag eraill, er enghraifft, i wella’n darbodion maint, er enghraifft y GIG a Fforwm Prynwyr Cymru Gyfan neu debyg:
- Mesur Llwyddiant: Sut mae’r cyngor yn mesur y ffordd y mae’n cyrraedd ei nodau o ran, er enghraifft: arfer lleol, amgylcheddol a moesegol? Sut mae’r cyngor yn monitro ac yn gorfodi’r gofynion hynny wrth weithio gydag eraill drwy, er enghraifft, eu Cytundebau Lefel Gwasanaeth neu gontractau?
- Hoffai’r panel glywed gan gynifer o aelodau’r cyhoedd a sefydliadau â phosib cyn gynted â phosib.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, gallwch anfon e-bost atom yn scrutiny@abertawe.gov.uk neu gallwch adael sylw ar y blog hwn.
Leave a Comment