Cyflwynwyd rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn 2002, gyda’r nod o godi safon tai cymdeithasol ar draws Cymru, gan ddilyn nifer mawr o rwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol. Y dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio yw 31 Rhagfyr 2021, sydd wedi’i estyn o ddiwedd mis Rhagfyr 2020 i ganiatáu ar gyfer oedi a gafwyd o ganlyniad i’r pandemig.
Mae Llywodraethu Cymru’n cydnabod nad yw bob amser yn bosib sicrhau bod eiddo o safon, ac yn yr achos hwn rhoddir ‘methiant derbyniol’. Mae rhesymau a ganiateir ar gyfer methiant derbyniol; dewis y tenant, cyfyngiadau corfforol safle a chostau neu amserlen y rhaglen.
Esboniodd swyddogion fod gan Gyngor Abertawe 5,795 eiddo ar hyn o bryd sydd wedi’u categoreiddio fel methiant derbyniol, y mae 3,165 eiddo wedi’u meddiannu gan denantiaid sydd wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y cynllun. Amlinellodd swyddogion y cyflawniadau a wnaed ers mis Ebrill 2019 fel cynnydd mewn cydymffurfio gan 2,338 eiddo. Mae swyddogion yn rhagweld na fydd y cyngor yn cyflawni dros 77% o gydymffurfiaeth oherwydd dewis tenantiaid.
Gofynnodd y Panel am y broses gaffael sydd ar waith ac esboniodd swyddogion fod y cyngor yn defnyddio gwasanaethau mewnol i gynnal cyfran sylweddol o’r holl atgyweiriadau tai – mae hyn yn darparu gwasanaeth da o safon a bydd y cyngor yn cefnogi contractwyr mewnol ar yr amod eu bod yn parhau i fod yn gystadleuol o ran dulliau cyflwyno.
Esboniodd swyddogion fod angen ‘contractwyr fframwaith’ ar raglenni mwy;er enghraifft, roedd y rhaglen ceginau ac ystafelloedd ymolchi’n fuddsoddiad o dros £100m, ac roedd angen mewnbwn ein pedwar contractwr fframwaith yn ogystal â gwasanaethau mewnol.
Esboniodd swyddogion fod y cyngor yn bwriadu benthyca rhagor o arian gyda’r Rhaglen Datgarboneiddio sydd ar ddod. Mae’r cyngor yn ariannu SATC a thelir am y cyfan drwy’r Cyfrif Refeniw Tai.
Nid yw SATC yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod cydymffurfio, yn hytrach bydd y cyngor yn dechrau ar y cam cynnal a chadw. Bydd cyfrifoldebau’n cynyddu yn y cam hwn i gynnwys datgarboneiddio a gofynion diogelwch tân ychwanegol, yn ogystal â chynnal a chadw eiddo ar y safon bresennol. Gan y bydd y rhaglen yn parhau yn ddiderfyn, bydd swyddogion yn parhau i adrodd i’r pwyllgor Craffu a’r cyngor er mwyn rhoi’r diweddaraf i aelodau. Bydd y cyngor hefyd yn parhau i ymgysylltu â phreswylwyr a rhanddeiliaid.
Cliciwch yma i weld yr adroddiadau a gyflwynwyd yn y cyfarfod hwn a’r holl lythyrau a anfonwyd ac a dderbyniwyd gan y Cabinet.
Leave a Comment