Cyfarfu Panel y Gwasanaethau i Oedolion ag Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol fis diwethaf i drafod yr adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer mis Chwefror 2021 ac i gael diweddariad ar sut mae Ymrwymiadau Polisi’r cyngor yn cael eu rhoi ar waith yn y Gwasanaethau i Oedolion.
Roedd y panel yn falch o glywed bod y sefyllfa gyffredinol o ran Monitro Perfformiad wedi dechrau gwella’n gyffredinol ym mis Chwefror 2021 ac yn edrych hyd yn oed yn well yn awr.
Clywodd y panel gan fod atgyfeiriadau diogelu’n mynd yn syth i’r tîm diogelu y bu gostyngiad yn nifer yr ymholiadau a dderbyniwyd yn y Pwynt Mynediad Cyffredin, fodd bynnag, mae achosion yn fwy cymhleth.
Ni chafwyd llawer o wahaniaeth o ran ystadegau ar gyfer Asesiadau Gofalwyr ond mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio’n fwy ar y maes hwn a bydd gwaith yn datblygu yn y flwyddyn i ddod. Roedd y panel yn teimlo nad yw’r Gwasanaethau Cymdeithasol mwyach yn darparu’r un gwasanaeth ag yr oedd flynyddoedd yn ôl, ac mae mwy o faich ar bobl sy’n byw’n annibynnol a mwy o bwysau ar ofalwyr. Holodd y panel a yw’r dirywiad mewn asesiadau o ganlyniad i’r pwysau sydd ar ofalwyr.
Roedd y panel yn falch o glywed bod gr?p wrthi’n edrych ar gefnogaeth i ofalwyr a chynllun gweithredu’n cael ei roi ar waith ac y bydd y gwasanaeth yn mynd ati’n rhagweithiol i nodi gofalwyr. Clywodd y panel mai’r blaenoriaethau hyn fyddai:
- cydnabod cefnogaeth i alluogi unigolion i barhau i ofalu
- cefnogaeth i fyw ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu
- gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i sicrhau cefnogaeth briodol i ofalwyr.
Bydd y panel yn edrych ar ofalwyr yn fanylach mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Esboniodd uwch swyddogion fod y llwybr rhwng yr ysbyty a Bonymaen House yn gweithio’n dda iawn. Ym mis Chwefror/Mawrth, roedd 14 o welyau ar gael ac mae ganddynt 19 erbyn hyn.
Trafododd y panel hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi tynnu staff yn ôl o reoli anableddau dysgu a gofynnwyd sut cafodd hyn ei gyfiawnhau, sut caiff ei reoli a phwy o’r Bwrdd Iechyd wnaeth y penderfyniad hwn. Esboniodd swyddogion fod y Bwrdd Iechyd yn edrych ar hyn eto ac y byddai swyddogion hefyd yn edrych ar y sefyllfa ac yn darparu ymateb llawnach i’r panel.
Trafododd y panel hefyd Ymrwymiadau Polisi’r cyngor a sut mae hwnnw’n berthnasol i’r Gwasanaethau i Oedolion. Clywodd y panel fod y gweithlu wrth wraidd popeth a wnaed yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ac y byddai angen llawer o waith cynllunio i sicrhau bod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol weithlu cynaliadwy wrth symud ymlaen.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y panel fod yr ymrwymiadau’n parhau i lywio addasiadau i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r adferiad wrth symud ymlaen, a’u bod wedi’u gwreiddio yng nghynlluniau’r gwasanaeth fel penawdau y mae angen canolbwyntio arnynt a’i fod yn fodlon iawn ar y broses y gallant ddangos tystiolaeth ohoni.
Gofynnodd y panel sut byddai hyn yn cydfynd â’r adolygiad comisiynu a wnaed rhai blynyddoedd yn ôl, yn ogystal â’r ymarfer caffael a wnaed gan y gwasanaeth yn ddiweddar, a dywedodd y swyddogion bod y cyngor wedi cymeradwyo’r model gorau posib ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a’i fod yn cydfynd â’r ymrwymiadau polisi.
Trafododd y Panel hefyd faterion yn ymwneud â:
- y gwaith ardderchog a wnaed gan y Cydlynwyr Ardaloedd Lleol (CALl) a newidiodd broffil eu swyddi yn ystod y cyfnod clo cyntaf
- cyllid ar gyfer CALl oddi wrth gymdeithasau tai ac a ellir sicrhau cyllid allanol i ariannu swyddi CALl
- datblygiad y Strategaeth Technoleg Gynorthwyol.
I ddarganfod rhagor am y materion a drafodwyd yn y cyfarfod hwn, cliciwch yma.
Leave a Comment