Gadewch inni edrych yn ôl ar yr hyn y mae Panel Craffu’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi bod yn ei wneud:

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar holl wasanaethau’r cyngor gan gynnwys craffu.

Gadewch inni edrych yn ôl ar yr hyn y mae Panel Craffu’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi bod yn ei wneud:

Ebrill 2020:

Mewn ymateb i’r cyfyngiadau symud cenedlaethol, ataliwyd pob cyfarfod craffu dros dro ac felly cafodd cyfarfod y Panel a drefnwyd ar gyfer mis Ebrill 2020 ei ganslo.

Medi 2020:

Cyfarfu’r Panel am y tro cyntaf ers mis Chwefror 2020 yn rhithwir i gael diweddariad gan Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, y Cyng. Elliott King ac uwch-swyddogion yn y gwasanaeth ar effaith COVID-19 ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Dysgodd y Panel y bu perthynas waith agos gyda’r Bwrdd Iechyd ac yn fewnol gyda’r gwasanaeth Addysg yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Elliott King ei fod yn ‘hynod falch’, o’r hyn y mae’r gwasanaeth wedi’i gyflawni a bod hyn oherwydd y staff. Mynegodd y Panel hefyd eu gwerthfawrogiad i’r staff sy’n gweithio mewn sefyllfa anodd iawn ac sydd wedi addasu’r gwasanaeth i ateb galwadau mor gyflym.

Dysgodd y panel fod Cynllun Adfer/Addasu ar waith.

I ddarllen rhagor am y cyfarfod hwn, cliciwch yma.

Hydref 2020:

Cyfarfu’r Panel i dderbyn diweddariad ar Adolygiad Dilynol Swyddfa Archwilio Cymru o Drefniadau Diogelu Corfforaethol – Plant yng Nghyngor Abertawe, ac i drafod y rhaglen waith ar gyfer 2020-21.

Dysgodd y Panel fod y pandemig wedi cyflymu’r broses o wella’r berthynas ag Addysg a bod Adrannau’n cwrdd yn wythnosol i flaenoriaethu’r plant y maent yn poeni fwyaf amdanynt er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel.

Dysgodd y Panel hefyd fod Gr?p Diogelu Corfforaethol sy’n goruchwylio diogelu corfforaethol a bod Bwrdd Diogelu Rhanbarthol sef bwrdd trosgynnol ar gyfer yr ardal. Mae’r Panel wedi cytuno i ychwanegu diweddariad gan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol at ei raglen waith yn y dyfodol a fydd yn rhoi adborth i’r Panel ar sut mae trefniadau rhanbarthol yn gweithio.

Trafododd y Panel hefyd y cynllun gwaith drafft, fodd bynnag, cytunodd Cynullwyr y Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Panel Gwasanaethau i Oedolion i oedi’r rhaglen bresennol am 3 mis i gynorthwyo â’r pwysau sydd ar swyddogion oherwydd y pandemig, ac i gynnal cyfarfodydd craffu ar y cyd â’r Gwasanaethau Cymdeithasol tan fis Chwefror 2021.

Rhagfyr 2020 – Chwefror 2021

Canolbwyntiodd cyfarfodydd ar y cyd Panel Craffu’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar fonitro perfformiad a buont yn edrych yn bennaf ar sut mae’r Gyfarwyddiaeth wedi rheoli COVID-19.

Cliciwch yma i ddarllen rhagor am yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfodydd hyn.

Mawrth 2021:

Ailddechreuodd y Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fel panel ‘annibynnol’.  Trafododd y Panel Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Mynd i’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a chraffwyd ar adroddiad Monitro Perfformiad y Cabinet ar gyfer mis Ionawr 2021.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys perfformiad yn erbyn Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru a dangosyddion lleol. Mae’r wybodaeth yn ymwneud â chyswllt Plant a Theuluoedd o’r drws ffrynt, y timau Cynllunio Gofal â Chymorth a Phlant sy’n Derbyn Gofal yn ogystal â Bays+, a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys trosolwg o oruchwyliaeth achosion a’r metrics Signs of Safety.

Trafododd y Panel adroddiad blynyddol yr Uned Ansawdd Diogelu hefyd. Cliciwch yma i weld y cyfarfod hwn a recordiwyd ac i ddarllen yr holl adroddiadau a gyflwynwyd i’r Panel. 

Mai 2021:

Disgwylir i’r Panel gwrdd ar 25 Mai 2021 i dderbyn sesiwn friffio ar y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a diweddariad ar gynnydd gyda’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS). Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr yma i gael y diweddaraf am waith y Panel ac i gael eich hysbysu ynghylch holl gyfarfodydd y Panel hwn yn y dyfodol.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.