Cynhaliodd Pwyllgor y Rhaglen Graffu gyfarfod arbennig (rhithwir) ar 24 Ebrill 2020 i drafod penderfyniad arfaethedig y Cabinet i addasu a newid Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn Ysbyty Cynnydd Sydyn â 1000 o welyau.
Ysgrifennodd y Cynghorydd Mary Jones, Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu, lythyr at Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth i ddarparu adborth y pwyllgor. Yn ei llythyr, mynegodd gydnabyddiaeth a chanmoliaeth y pwyllgor ar gyfer yr holl staff a oedd yn rhan o’r broses i ‘ddylunio, caffael a datblygu cyfleuster gweithredol mewn adeilad gwag o fewn tair wythnos, sy’n dangos sgiliau rheoli prosiectau a chyflwyno canlyniadau gwych o fewn y cyngor.’
Cytunodd y pwyllgor yn unfrydol i gymeradwyo’r argymhellion arfaethedig, ond amlygwyd y problemau y dylai’r Cabinet eu hystyried yn y cyfnod cyn cyfarfod y Cabinet ac ar ôl hynny, ar ôl cwblhau’r prosiect a’i drosglwyddo’n llawn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
I ddarllen y llythyr hwn a chael gwybod am yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwn, cliciwch yma.
Leave a Comment