Meddai Cynullydd y Panel Craffu Perfformiad Addysg,
“Rydym yn falch iawn o glywed am y gwaith gwych sydd wedi’i wneud i gadw ysgolion mor ddiogel â phosib rhag COVID-19, yn ogystal â sicrhau bod disgyblion yn gallu cael gafael ar y cyfarpar cyfrifiadurol priodol pan oedd yn rhaid iddynt weithio gartref i’w galluogi i ddefnyddio’n llwyfannau dysgu digidol’.
“Nodom hefyd fod cyfathrebiadau o’r Adran Addysgu i ysgolion, o ysgolion i rieni ac i’r gymuned ehangach yn gweithio’n dda, ac yn rhoi digon o wybodaeth i bawb. Mae busnes dyddiol addysg wedi newid yn y cyfnod anodd a heriol hwn ond mae wedi parhau ac mewn rhai achosion, bu’n rhaid addasu’n gyflym iawn wrth i ni groesawu dysgu digidol.
I gydnabod hyn, mae’r panel wedi gofyn i’r Cyfarwyddwr Addysg drosglwyddo eu diolch i benaethiaid, athrawon a staff cefnogi mewn ysgolion ac yn yr adran addysg sydd wedi ateb yr her. Gorffennodd y Cynullydd drwy ddweud ‘Da iawn i chi gyd’.
Cyfarfu’r Panel Craffu ar 22 Hydref i edrych ar y gwaith sydd wedi cael ei wneud mewn ysgolion ledled Abertawe, yn ogystal ag yn yr Adran Addysg, ers dechrau’r pandemig Coronafeirws. Ystyriwyd y cynllun adfer ganddynt hefyd.
Gallwch wylio’r cyfarfod hwn drwy ddilyn y ddolen hon.
Leave a Comment