Yn dilyn trafodaethau a gynhaliwyd fis diwethaf â rhieni oedolion â phroblemau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, mae paneli craffu’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi ymateb i bryderon am ‘asesiadau gofalwyr’ drwy gytuno i gynnal dau gr?p ffocws ychwanegol yn gynharach yr wythnos hon.
Clywodd y ddau banel am bryderon gofalwyr gan fynd ati i geisio dod o hyd i atebion i bob un o’r cwestiynau canlynol:
- Beth sy’n mynd yn dda gyda’r asesiadau gofalwyr?
- Beth yw’r rhwystrau/problemau a wynebir?
- Beth gellir ei wella?
Bydd y trafodaethau a gynhelir yn cynorthwyo’r ddau banel yn eu cyfarfodydd ag Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda, y Cyng. Mark Child ac Aelodau’r Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, y Cyng. Elliott King a’r Cyng. Sam Pritchard, lle bydd ffocws ar asesiadau gofalwyr a’r hyn y mae’r cyngor yn ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i wella.
- Cyfarfod Craffu’r Gwasanaethu i Oedolion: 17 Rhagfyr 2019 am 4.00pm – Ystafell Bwyllgor 3A, Neuadd y Ddinas
- Cyfarfod Craffu’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd: 24 Chwefror 2019 am 4.00pm – Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas.
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfodydd hyn. Cliciwch ar ddolenni’r cyfarfodydd uchod i weld rhagor o fanylion.
Leave a Comment