Clywodd Cynghorwyr fod cynnydd da wedi’i wneud gyda’r rhan fwyaf o’r argymhellion a wnaed gan y Panel a bod cyfarwyddyd cliriach bellach gan Lywodraeth Cymru ar weithio rhanbarthol, yn enwedig mewn perthynas â gwella cydweithio rhwng cynghorau.
Cyfarfu’r Panel Ymchwiliad Craffu Gweithio Rhanbarthol ag Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr ym mis Hydref i drafod yr effaith y mae’r adroddiad wedi’i chael a mynd ar drywydd yr argymhellion o’r adroddiad a gytunwyd gan Gabinet y cyngor ym mis Awst 2018.
Clywodd y Panel am y cynnydd gan gynnwys y canlynol:
- Cynhaliodd y Prif Weithredwr drafodaethau anffurfiol â’r Gweinidog a chydag uwch-weision sifil gyda golwg ar baratoi cynnig rhanbarthol yn dilyn trafodaethau â chynghorau cyfagos.
- Mae adolygiadau o’r trefniadau presennol wedi cyfeirio’r strategaeth sy’n cael ei datblygu ar gyfer cydweithio, a’r dewis o batrwm cydweithredu pedwar cyngor fel sail ar gyfer trefniadau partneriaeth yn y dyfodol. Clywodd y Panel mai’r ardal fwyaf rhesymegol i Abertawe yw ardal y Dinas-ranbarth, sy’n cynnwys y pedwar awdurdod lleol sef Castell-nedd Port Talbot. Sir Benfro, Sir Gâr ac Abertawe. Er ni fyddai hyn yn cynnwys Iechyd ar hyn o bryd gan fod ystyriaethau ynghylch hyn dipyn yn fwy cymhleth. Teimlai cynghorwyr ei bod hi’n gadarnhaol iawn fod gennym eglurder ymysg y pedwar awdurdod lleol ynghylch y ffordd i symud ymlaen. Maent yn cydnabod bod gan y pedwar awdurdod hwn brofiad o gyflwyno prosiectau gyda’i gilydd, ac mae ganddynt strategaethau cyffredin, yn enwedig o ran datblygiad economaidd a gwella addysg.
- Eglurwyd mai ychydig o gynnydd a wnaed o ran yr argymhelliad am wella technoleg fodern er mwyn lleihau teithio i gyfarfodydd. Clywodd y cynghorwyr er bod y defnydd o Skype yn cynyddu, mae lefel y gallu a’r adnoddau technolegol yn amrywio rhwng cynghorau. Caiff cynnig ar gyfer cydweithio rhanbarthol ei wneud a fydd yn ceisio mynd i’r afael â hyn a cheisir cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud hynny.
- Dysgwyd gwersi o’n gweithgareddau cydweithredol cyfredol ac eglurwyd sut bydd yr hyn a ddysgwyd yn fuddiol i Abertawe mewn gweithgareddau cydweithredol yn y dyfodol yn enwedig yr angen am reoli rhaglenni’n dda, llywodraethu clir a chadarn a rhannu cyfrifoldeb.
- Bydd Bil i Gymru’n debygol o gael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2019 a fydd yn amlinellu’r pwerau a’r cyfrifoldebau newydd i gynghorau lleol. Bydd yn creu heriau a buddion. Er enghraifft, bydd p?er cymhwyster cyffredinol yn hynod bwysig a bydd yn dileu biwrocratiaeth ddiangen sy’n ymwneud ag archwilio parhaus, a chyflwynir adolygiadau gan gynghreiriaid yn lle. Cytunodd y Panel fod yn rhaid cael adnoddau ariannol gyda’r pwerau a’r cyfrifoldebau newydd i sicrhau y gellir eu cyflawni’n wirioneddol.
Roedd y Panel yn falch o glywed bod yr ymchwiliad craffu wedi helpu i godi proffil gweithio rhanbarthol a’i fod wedi hysbysu pobl a darparu eglurder ar ymagwedd y cyngor at gydweithio rhanbarthol.
Leave a Comment