Cyfarfu Cynghorwyr Craffu ar 25 Medi i drafod cylch gorchwyl y panel newydd sef Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol a throsolwg o ymrwymiadau’r cyngor mewn perthynas â hyn. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar weithgarwch dros y 3 blynedd diwethaf, ond mae cyngor Abertawe wedi bod yn gwneud gwaith mewn cysylltiad â hyn am yr 50-60 mlynedd diwethaf.
Hysbyswyd y panel fod 80% o Abertawe’n lle gwyrdd ac yn hynod amrywiol gyda thros 50% o’r sir o werth ecolegol sylweddol. Mae’r amgylchedd yn cael ei warchod drwy ddynodiadau safle a deddfwriaeth, fodd bynnag, mae colli bioamrywiaeth a difodiant rhywogaethau’n her ac yn berygl ac mae angen cynyddu ymwybyddiaeth ymhellach o’r mater hwn.
Roedd y panel yn falch o glywed bod y timau sy’n gweithio yn adran berthnasol y cyngor yn gweithio ar strategaeth isadeiledd gwyrdd sy’n edrych ar ddatrysiadau sy’n seiliedig ar natur, a dywedodd y panel eu bod yn awyddus i gyfrannu at hyn ar yr adeg briodol.
Trafodwyd problemau mewn perthynas â chynllunio a’r pryder y gall hyn fod yn cyfrannu at golli bioamrywiaeth. Sicrhawyd y panel fod y Tîm Cadwraeth Natur yn gweithio’n agos iawn gyda’r Gwasanaethau Cynllunio ac maent hwy’n frwd dros y mater hwn ac yn gwneud cymaint ag y gallant i gynnal a gwella bioamrywiaeth o fewn y canllawiau cynllunio. Mae rhai problemau’n codi y tu allan i’r broses cynllunio megis gorchmynion cadw coed yn cael eu hanwybyddu neu dir yn cael ei glirio cyn neu ar ôl i arolygon gael eu cynnal.
Roedd y panel yn teimlo bod hyn yn ymwneud yn fwy â diffyg staff gorfodi ac nid oherwydd diffyg ewyllys. Nid yw’r broblem hon o ran adnoddau’n gyfyngedig i lefelau staffio yn y cyngor ac mewn asiantaethau perthnasol eraill yn unig – mae diffyg o ran nodi canlyniad yn y ddeddfwriaeth.
Bydd y Cynghorydd Peter Jones, cynullydd y panel, yn ysgrifennu at y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar ran y panel i lobïo ar gyfer gorfodi cryfach a chosbau llymach am niweidio bioamrywiaeth neu gyfrannu at golli bioamrywiaeth. Yn y llythyr hwn, bydd hefyd yn cyfeirio at fater diffyg cyllid.
Mae aelodau’r panel yn teimlo’n frwd dros y materion hyn ond maent yn ymwybodol na allwn, fel cyngor, wneud hyn ar ein pennau ein hunain ac yn teimlo y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu’r cyllid fel y gellir gwneud y gwaith.
Bydd y panel yn parhau i edrych ar faterion sy’n berthnasol i’r amgylchedd naturiol drwy gydol y flwyddyn ac mae’n teimlo’n gryf bod problem colli bioamrywiaeth yn argyfwng ac y dylid ei drin felly. Daeth y panel i’r casgliad na ellir cael blaenoriaeth economaidd dros ecoleg mwyach, ac maent yn gobeithio gweld cynnydd cyflym a sylweddol ar y mater hwn yn y dyfodol agos.
Yn ei lythyr at y Cyng. David Hopkins, mae’r Cyng. Peter Jones yn gofyn ‘a ellid cael ymagwedd ranbarthol at fioamrywiaeth’. Creffir ar nifer o feysydd gwaith y cyngor, cynghorir arnynt neu eu datblygir yn rhanbarthol megis addysg, adfywio a hyd yn oed trafnidiaeth. Mae’n ymddangos y gallai panel/corff rhanbarthol sy’n edrych ar ffyrdd ar y cyd i wella bioamrywiaeth ar draws de-orllewin Cymru rannu sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau.’ Disgwylir i’r Cyng. David Hopkins ymateb i hyn erbyn 25 Hydref.
I gael y diweddaraf am waith y panel ac i ddarllen yr holl lythyrau a anfonwyd ac a dderbyniwyd gan y Cabinet, ewch i wefan Cyngor Abertawe drwy glicio yma.
Leave a Comment