Daeth Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i drafod cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth yn Abertawe yn ystod cyfarfod diweddar y Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio.
Clywodd y Panel am amrywiaeth o brosiectau trafnidiaeth yn Abertawe, o deithio llesol i wella ansawdd aer.
Cafwyd hefyd drafodaeth am y syniad posib o gael gorsaf drenau newydd ar safle Felindre, ond mae hyn yn y camau trafodaeth cynnar iawn o hyd.
Mae’n amlwg bod hyrwyddo teithio llesol megis beicio wrth wraidd nifer o ddatblygiadau’r dyfodol, yn lleol ac ar lefel Llywodraeth Cymru. Mae hyn, ynghyd â thrafnidiaeth gyhoeddus effeithiol sy’n cysylltu pobl â chyrchfannau hamdden a gweithio, yn creu ffordd gynaliadwy o deithio o gwmpas y ddinas.
Mae ansawdd aer wedi bod yn bwynt trafod ers peth amser ac roedd yn gyffrous i glywed bod 26-30% yn llai o draffig yn yr Hafod o ganlyniad i’r ffordd ddosbarthu a 20% yn llai o garbon monocsid ar hen Heol Castell-nedd ac mae’r cyngor yn bwriadu lleihau hyn hyd yn oed yn fwy.
Codwyd y mater o geir trydan ac er y byddai hynny’n helpu i leihau allyriadau carbon, ni fyddai’n lleihau’r tagfeydd.
Mae trafnidiaeth yn waith trawsadrannol iawn ac mae nifer o dimau’n gweithio er mwyn gwireddu syniadau.
Gobeithiwn y bydd pob prosiect yn dilyn y trywydd cywir!
Leave a Comment