Sefydlwyd panel craffu ar yr Amgylchedd Naturiol newydd. Bydd y Panel yn gyfrifol am fonitro perfformiad y cyngor mewn perthynas â’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn barhaus.
Mae datblygu’r panel hwn yn dilyn cyflwyno Blaenoriaeth Gorfforaethol newydd ac ymholiad craffu a oedd yn edrych ar sut mae’r cyngor yn rheoli’r adnoddau naturiol yn Abertawe.
Mae hyn hefyd yn gysylltiedig â’r Argyfwng Hinsawdd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyngor Abertawe.
Cynhelir cyfarfod cyntaf y Panel ar 25 Medi 2019. Bydd y cyfarfod hwn yn cynnwys trosolwg o ymrwymiadau presennol y cyngor dan yr amgylchedd naturiol a pha gynlluniau a phrosiectau sydd ar waith.
Ymysg yr eitemau eraill y mae’r Panel yn bwriadu eu hymchwilio mae Risgiau Llifogydd Lleol, defnydd o’r sylwedd Glyffosad (chwynladdwr) a niwsans gan wylanod.
Mae Abertawe’n gyngor blaengar o safbwynt cynnal a chadw a gwella’r amgylchedd naturiol a bydd y Panel yn awyddus i glywed pa fentrau newydd a drefnwyd gan y cyngor er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn brif flaenoriaeth.
Leave a Comment