Panel Craffu Perfformiad Ysgolion, sef corff craffu addysg Cyngor Abertawe, sydd â’r rôl o ddarparu heriau parhaus o ran perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon, ac i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.
Gwnaethant gwrdd yn ddiweddar i drafod y rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn sydd ar ddod. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, byddant yn bresennol yn y cyfarfodydd canlynol:
Dydd Iau 12 Medi 2019 am 4.00pm
Bydd cynghorwyr yn ystyried dwy eitem, Perfformiad y disgyblion sy’n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim ac Addysg Ddewisol yn y Cartref.
Dydd Iau 17 Hydref 2019 am 4.00pm
Bydd cynghorwyr yn cwrdd â’r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr ysgol gynradd leol i drafod eu taith wella.
Dydd Iau 14 Tachwedd 2019 am 4.00pm
- Diben y sesiwn hon fydd ystyried Cenhadaeth Genedlaethol Cymru a datblygu cwricwlwm trawsnewidiol. Bydd cynghorwyr yn ystyried sut mae ysgolion yn ymateb i’r cwricwlwm drafft newydd a’r 4 amcan galluogi cysylltiedig
- Menter Ysgolion Iach
Ceir copïau o’r holl agendâu craffu yma (bydd papurau ar gyfer y ddau gyfarfod ar gael erbyn diwedd yr wythnos cyn y cyfarfod).
Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd wylio o’r oriel gyhoeddus.
I gael mwy o wybodaeth am y Tîm Craffu’n gyffredinol, ewch i’n gwefan yn https://www.abertawe.gov.uk/craffu
Leave a Comment