Ymwelodd Cynghorwyr o’r Panel Craffu Perfformiad Ysgolion ag Ysgol Gymunedol Dylan Thomas ym mis Gorffennaf i gwrdd â’r pennaeth, cadeirydd y llywodraethwyr ac aelodau eraill o staff yr ysgol.
Penderfynodd y Cynghorwyr siarad â’r ysgol hon oherwydd eu bod wedi clywed am arfer da’r ysgol mewn perthynas â lles disgyblion gyda’r nod o wella cyrhaeddiad disgyblion, a llwyddo i wneud hynny. Mae’r Panel hefyd yn deall bod lles yn agwedd allweddol ar y cwricwlwm newydd ac roedd yn meddwl y byddai’n amser da i gael dealltwriaeth dda o’r materion allweddol drwy weld y gwaith a wneir yn yr ysgol gyda disgyblion.
Clywodd y Cynghorwyr am y cyd-destun a’r rheswm pam mae lles yn allweddol ar gyfer Ysgol Gymunedol Dylan Thomas. Dywedwyd wrthynt ei bod yn ysgol uwchradd â mwy na 529 o ddisgyblion, gan gynnwys tri Chyfleuster Addysgu Arbenigol (CAA) ar y safle. Mae 70% o’r disgyblion yn byw yn 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru felly mae lefel uchel o dlodi yma. Mae 54% o’r disgyblion yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim. Mae gan dros 60% o’r disgyblion oed darllen sy’n sylweddol is na’u hoedran cronolegol pan fyddant yn cyrraedd blwyddyn 7. Nodir 60% o ddisgyblion fel rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae nifer y cwynion am iechyd meddwl yn cynyddu ac mae’r gyfradd symud a throsglwyddo yn ystod y flwyddyn yn uchel.
Clywodd y Panel mai ffocws yr ysgol a’r staff yw cynyddu disgwyliadau ar gyfer disgyblion a gwella’u dyheadau; clywsant fod nifer o ddisgyblion talentog yn yr ysgol ond, yn anffodus, nid yw rhai o’r disgyblion bob amser yn meddwl eu bod yn ddigon da ac maent yn tanbrisio’u gallu. Esboniodd y Pennaeth Gweithredol na ellid defnyddio’r rhwystrau a’r heriau y mae’r ysgol yn eu hwynebu fel esgus am safonau gwael, a rhoddodd rai esiamplau i’r Cynghorwyr o ddisgyblion sydd wedi rhagori yn yr ysgol. Cytunodd y Cynghorwyr fod cael dyheadau uchel ar gyfer pob disgybl yn hollbwysig.
Nododd y Cynghorwyr nifer o bwyntiau dysgu o’r ymweliad yr oeddent am eu rhannu:
Gellir gwella lles trwy sicrhau’r canlynol:
- Mae lles wrth wraidd yr hyn a wneir
- Mae disgyblion yn cael eu hatgoffa’n gyson o’r disgwyliadau ac mae eu dyheadau’n cael eu cynyddu
- Mae’r ysgol yn magu ac yn gwella perthnasoedd yn gyson yn yr ysgol, gyda rhieni a chyda’r gymuned leol
- Mae staff yn canolbwyntio ar bethau cadarnhaol yn hytrach na chosbau: ymagwedd gadarnhaol tuag at gyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion (er enghraifft, nodi a hyrwyddo pethau cadarnhaol, rhoi clod, gwobrwyo, cwrdd a chyfarch wrth gatiau’r ysgol, a throeon dysgu yn hytrach nag ystafell ymddygiad)
- Mae’r ysgol yn falch o’i disgyblion ac mae’n datblygu ymdeimlad o gymuned
- Mae staff yn deall nad yw’r un peth yn addas ar gyfer pawb, ac felly’n ystyried yr unigolyn pan fo angen
- Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill megis Evolve, Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, gwasanaethau Addysg Heblaw yn yr Ysgol, Ymddiriedolaeth y Tywysog, etc.
- Caiff staff eu hyfforddi mewn gwella ymddygiad ac osgoi gwaharddiadau, sy’n cynnwys ymagweddau Pivotal tuag at ymddygiad.
- Mae gan yr ysgol gorff llywodraethu cryf a heriol sydd hefyd yn gefnogol
- Mae’r ysgol yn rhannu ac yn ceisio arfer gorau er mwyn gwella’n barhaus.
Hoffai’r Panel longyfarch pawb yn yr ysgol a’r corff llywodraethu am eu holl waith caled a’u hymrwymiad at y broses o wella.
Diolchodd y Cynghorwyr i’r bobl ifanc a wnaeth eu tywys ar daith o gwmpas yr ysgol, a dywedon nhw eu bod yn llysgenhadon arbennig.
Canmolwyd yr ysgol gan y Panel am ddatblygu awyrgylch lle mae disgyblion yn teimlo’n werthfawr a dymunodd y gorau i’r ysgol yn y dyfodol.
Leave a Comment