Fe wnaeth y Gweithgor Craffu ystyried Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YG) a sut mae Cyngor Abertawe’n mynd i’r afael â materion ynghylch hyn yn ddiweddar.
Clywodd y panel for ymagwedd aml-asiantaeth wedi’i mabwysiadau er mwyn sicrhau bod pawb y dylid eu cynnwys megis Gwasanaethau Ieuenctid, yr Heddlu a Chydlynwyr Ardaloedd Lleol (ymysg eraill) yn cael eu hysbysu yn y lle cyntaf.
Mae cynllun pedwar cam effeithiol iawn sy’n bwriadu delio ag unrhyw faterion YG ar gam cynnar – 2-3% yn unig sy’n cyrraedd cam dau felly mae hyn yn ymddangos yn llwyddiannus iawn.
Er bod YG yn gyffredinol yn fater sy’n cael ei gysylltu â phobl ifanc, yn ddiddorol, nid dyma brofiad y tîm neu’r cynghorwyr a oedd yn bresennol. Mae’n amlwg fod YG yn digwydd ym mhob rhan o Abertawe am resymau amrywiol ac mae’n cael ei achosi gan bobl o bob oedran.
Gwnaeth y panel y cysylltiad rhwng tlodi ac YG ac er bod nifer fawr o aelodau staff ymroddedig y cyngor yn gweithio gyda chymunedau, mae’r panel yn teimlo bod y toriadau y mae pob cyngor wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf yn sicr wedi cael effaith. Gall llai o weithgareddau ac adnoddau mewn cymunedau arwain at deimladau o ddiflastod ac arwahanrwydd.
Cafodd y panel argraff dda iawn gan y cymorth yr oedd y tîm yn cynnig, nid yn unig i ddioddefwyr YG, ond hefyd y bobl a oedd yn ei achosi. Mae cyngor a chymorth ar gael er mwyn ceisio newid patrymau ymddygiad yn y tymor hir a sicrhau nad oes YG yng nghymunedau Abertawe.
Leave a Comment