
Roedd Cynghorwyr Craffu Abertawe wedi cwrdd â Phennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Burlais i drafod sut mae’r ysgol yn gweithio i wella’n barhaus.
Clywodd y cynghorwyr gan y Pennaeth fod yr ysgol yn newydd ac yn gyfuniad o ddwy ysgol gynradd. Mae’n ysgol gynradd fawr gyda 553 o ddisgyblion ar y gofrestr bresennol ac adlewyrchir hyn yn nifer uchel y staff addysgu a chefnogi.
Yn dilyn eu trafodaeth â’r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr, penderfynodd y cynghorwyr bod y gwelliannau a wnaed yn yr ysgol yn dwyn ffrwyth a bod yr ysgol yn ymddangos llawer yn well nag yr oedd ar adeg yr arolygiad Estyn gwreiddiol yn 2017. Mae tystiolaeth o hyn hefyd wedi cael ei dangos drwy enw’r ysgol yn cael ei dynnu oddi ar restr gweithgaredd dilynol Estyn ym mis Rhagfyr 2018.
Roedd y cynghorwyr yn teimlo bod hyn yn bennaf oherwydd y rhesymau canlynol:
- Mae gan yr ysgol gorff llywodraethu cefnogol, gwybodus a heriol a chanddo’r sgiliau angenrheidiol i helpu i ysgogi gwelliant.
- Mae Pennaeth ac Uwch-dîm Rheoli’r ysgol yn hollol ymrwymedig i helpu’r ysgol i wella.
- Parodrwydd yr ysgol i weithio gyda’r awdurdod lleol a’r Gwasanaeth Gwella Addysg a derbyn cefnogaeth ganddynt.
- Glynwyd wrth y cerrig milltir ar gyfer gwella a roddwyd ar waith yn dilyn yr arolygiad.
- Mae’r ysgol yn dysgu trwy weld arfer da gan ysgolion eraill, a thrwy rannu arfer da ag ysgolion eraill.
- Mae’r ysgol yn cael cefnogaeth gref gan rieni a’r gymuned leol, gyda’r ysgol yn cymryd ei rôl yn y gymuned o ddifri.
Diolchodd y panel i Bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol, gan eu llongyfarch am eu gwaith caled a’u hymroddiad i’r daith wella hon sydd, yn eu barn nhw, yn amlwg yn llwyddiannus.
Leave a Comment