Cyfarfu Cynghorwyr Craffu y Panel Cyllid a Gwella Gwasanaethau ar 7 Chwefror i drafod Adroddiad Perfformiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 16/17.
Cafodd y Panel gyflwyniad gan Uwch-swyddogion y Gwasanaethau Diwylliannol ar fframwaith cyfredol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Mae fframweithiau’n sicrhau bod llyfrgelloedd yng Nghymru’n bodloni safonau penodol.
Roedd Cynghorwyr Craffu’n falch o ymdrechion y staff wrth gyflwyno’r gwasanaeth hwn yn ystod amser heriol o gyni a gwnaethon nhw eu canmol.
Barnwyd llyfrgelloedd Cyngor Abertawe fel a ganlyn:
- 6ed yng Nghymru o ran ymweliadau er bod mwyafrif o’r adeiladau’n annibynnol a heb ddenu nifer mawr o bobl o adeiladau amlddefnydd.
- 3ydd yng Nghymru o ran benthyca actif a chyson
- 2il yng Nghymru o ran benthyg electronig a chlyweledol
Gellir gweld mwy o welliant wrth sôn am gadw a gofyn am eitemau penodol. Darperir WIFI yn holl lyfrgelloedd Abertawe erbyn hyn ac mae lefelau uchel o foddhad cwsmeriaid gyda gwasanaeth y llyfrgell.
Cynigir amrywiaeth o weithgareddau gwahanol gan lyfrgelloedd y mae rhai ohonynt yn ymdrin â materion lles ac yn annog cyfranogiad cymunedol. Ymysg y rhain y mae: Clybiau lliwio a gwau, amser rhigwm i blant bach, clybiau chwilio am swyddi, gweithgareddau yn ystod hanner tymor a boreau coffi.
Roedd Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, y Cynghorydd Robert Francis-Davies yn y cyfarfod craffu hefyd. Nododd fod gan lyfrgelloedd sawl pwrpas erbyn hyn a bydd pobl yn eu defnyddio am wahanol resymau gan gynnwys cymdeithasu ac osgoi unigrwydd. Roedd yn ddiolchgar i’r tîm am eu cyfraniadau a’u gwaith caled o dan amodau staffio anodd.
Canmolodd y Cynghorydd Chris Holley, cynullydd y Panel, y swyddogion am y cyflwyniad a gafwyd gan gydnabod ymdrechion y staff yn enwedig pan ystyrir yr anawsterau yn sgil pwysau staffio. Bydd ef yn ysgrifennu i’r Cabinet yngl?n ag argymhellion sy’n seiliedig ar yr adroddiad a’r cyflwyniad a dderbyniwyd.
Caiff y llythyr hwn, ynghyd ag ymateb y Cabinet, eu cyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe.
Leave a Comment