Cyfarfu Cynghorwyr Craffu’r Gweithgor Ceffylau ar Dennyn ar 31 Ionawr i gyd-drafod a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd gan y cyngor a’i bartneriaid ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â cheffylau ar dennyn ar dir cyhoeddus.
Roedd cynghorwyr yn falch o glywed y cynnydd mawr a wnaed yn dilyn eu cyfarfod cychwynnol yn 2016. Nodwyd ardaloedd poblogaidd ac mae camau gweithredu wedi’u cymryd i hysbysu’r cyhoedd na chaniateir ceffylau a bod yr ardaloedd hyn bellach yn cael eu monitro’n fisol. Canlyniad hyn oedd gostyngiad o 60% yn nifer y ceffylau ar dennyn ar draws y ddinas ers mis Mai 2016.
Derbyniodd cynghorwyr craffu a’r gweithgor hwn adborth gwych a geiriau o ddiolch gan yr RSPCA a Chyfeillion Ceffylau Abertawe (FOSH) am eu cefnogaeth wrth gynyddu ymwybyddiaeth a chraffu ymagwedd gyffredinol y cyngor at y mater o geffylau ar dennyn. Ymatebodd y cynghorwyr craffu a chynullydd y gweithgor yn debyg, ac amlygodd y Cynghorydd Jeff Jones fod y gwelliannau a welwyd o ganlyniad i ymdrech ar y cyd na fyddai wedi llwyddo heb yr holl asiantaethau a oedd yn rhan o’r gwaith.
Roedd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Amgylchedd, y Cynghorydd Mark Thomas, yn bresennol yn y gweithgor hefyd, a mynegodd ef werthfawrogiad tuag at bartneriaid sydd wedi sefydlu ‘Fforwm Ceffylau Abertawe’ ar y cyd â’r cyngor ac sydd wedi cwrdd deir gwaith er mwyn parhau i gyd-drafod a gwella. Rhoddodd ddiweddariad hefyd i’r cynghorwyr craffu ar y cynnydd a wnaed gan y cyngor drwy feithrin perthnasoedd agosach â pherchnogion ceffylau yn Abertawe a’u haddysgu.
Bydd y Cynghorydd Jeff Jones yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet yn dilyn y cyfarfod hwn er mwyn cynnig argymhellion i gadw’r gwaith i fynd a pharhau i wella amodau cadw ceffylau yn Abertawe.
Caiff y llythyr hwn, a’r ymateb disgwyledig gan y Cabinet, eu cyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe.
Leave a Comment