Bu’r Panel Craffu Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn edrych ar benderfyniad y Cabinet sydd ar ddod o ganlyniad i’r adolygiad comisiynu a oedd yn canolbwyntio ar wasanaethau i blant ag anghenion ychwanegol ac anableddau. Roedd yr adolygiad hwn yn ystyried yr opsiynau ar gyfer newidiadau i’r gwasanaethau sydd ar gael i blant ag anghenion ychwanegol ac anableddau a nodwyd drwy adolygiad ehangach o’r Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd. Mae rhai o’r meysydd yr oedd yr adolygiad yn eu trafod yn cynnwys:
- Cyfranogaeth a chynnwys rhieni/gofalwyr
- Cyfleoedd chwarae a hamdden
- Gofal cartref
- Seibiannau dros nos
- Cymorth cynnar
- Gofalwyr ifanc
Mae’r panel, ar ôl ystyried yr adroddiad hwn, wedi ysgrifennu i’r Cabinet gyda’i sylwadau. Nodir isod rai o’r materion y bydd y panel yn tynnu sylw’r Cabinet atynt yn ei gyfarfod ar 16 Tachwedd:
1. Mae’n dda gweld cynhwysiad ac ymarfer ymgynghori manwl i geisio barn plant a phobl ifanc am y gwasanaethau anabledd.
2. Mae aelodau’r panel yn awyddus i glywed am y cyd-gynhyrchu gyda rheini wrth ddatblygu gwasanaethau ac yn croesawu datblygiad proses ymgynghori â rhieni a fydd yn cynnwys gr?p eang o blant ag anghenion ychwanegol. Fodd bynnag, pwysleisiom bwysigrwydd sicrhau ein bod yn gwneud ymdrech arbennig i gael barn y rhieni hynny sydd efallai’n llai llafar neu sydd, am ba reswm bynnag, yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu.
4. Clywsant fod nifer cynyddol o blant ag anghenion ychwanegol sy’n her barhaus i awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd fel ei gilydd. O ganlyniad, maent yn cefnogi’r cynnydd mewn cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth Cynnar. Maent yn cydnabod yr angen i ddatblygu gwasanaethau atal gwell ar y cyd ag iechyd a chefnogaeth yn yr awdurdod mewn ymdrech i gynnwys iechyd mewn datblygiadau yn y dyfodol.
5. Mae’r adroddiad yn nodi mai grantiau sy’n gyfrifol am 11% o’r cyllid cyffredinol ac mae’n rhaid gweld perygl hyn wrth symud ymlaen. Pwysleisiodd y panel bwysigrwydd cynllunio wrth gefn petai’r grantiau hyn yn dod i ben neu’n cael eu lleihau.
6. Mae cynghorwyr ar ddeall bod y syniad o gyflwyno cynllun talebau ar gyfer chwarae a hamdden i blant ag anghenion ychwanegol yn cael ei ystyried. Hoffent bwysleisio pwysigrwydd cydnabod goblygiadau posib y math hwn o gynllun i ddarparwyr a rhieni. Roeddent yn falch o glywed eich bod yn bwriadu edrych ar ba mor dda mae hyn yn gweithio mewn awdurdodau lleol eraill a gweithio’n agos gyda rhieni wrth ystyried hyn fel opsiwn.
7. Roedd cynghorwyr yn gefnogol o’r argymhelliad o ran gwasanaethau arbenigol i ofalwyr ifanc er eu bod yn cydnabod ei fod yn ei gamau cynnar ar hyn o bryd.
Leave a Comment