Daeth Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Craffu Addysg yr awdurdodau lleol ynghyd yn Aberhonddu ar gyfer eu Grwp Cynghorwyr Craffu a gynhelir ddwywaith y flwyddyn ar 29 Medi 2017. Isod ceir manylion am rai o gasgliadau’r Grwp
Cynghorwyr sydd wedi cael eu cynnwys mewn llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor ERW.
Cwota o Ymgynghorwyr Herio
Rhoddodd y Rheolwr-gyfarwyddwr y diweddaraf i’r Grwp Cynghorwyr am y mater a amlygwyd mewn llythyr blaenorol o ran yr hyn sy’n cael ei wneud gan awdurdodau lleol i gyrraedd eu cwota llawn o Ymgynghorwyr Herio. Clywodd y gr?p fod 45 o ymgynghorwyr herio amser llawn ar hyn o bryd a bod yna nod o gyflogi 58 ohonynt ar draws y rhanbarth. Nid oedd yn bosib i ERW gau’r bwlch hwn ond mae’n her i awdurdodau lleol fynd i’r afael â hi. Clywsant fod angen ailystyried y fformiwla sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd fel rhan o gytundeb ERW, a sut rydym yn rheoli gallu a staff ar draws y rhanbarth. Croesawodd y cynghorwyr benderfyniad Cyd-bwyllgor ERW i sefydlu Bwrdd Rhaglen er mwyn adolygu a monitro gallu. Gofynnodd y grwp am y diweddaraf am sut mae hyn yn datblygu yn y cyfarfod nesaf.
Cynllun Busnes 2017-2020
Rhoddodd y Rheolwr-gyfarwyddwr gyflwyniad am Gynllun Busnes diweddaraf 2017-2020. Roedd cynghorwyr yn falch o glywed am yr is-adran newydd a fydd yn mesur effaith/llwyddiant. Gwnaed cais gan y grwp i gael y newyddion diweddaraf am yr is-adran hon ym mhob cyfarfod yn y dyfodol gan y bydd yn eitem sefydlog ar ein hagendâu yn y dyfodol.
Rheoli perfformiad
Clywodd y Grwp fod yna raglen barhaus ar waith i wella sgiliau ysgolion o ran rheoli perfformiad ac, yn benodol, o ran gwella sgiliau rheolwyr canol mewn ysgolion fel eu bod mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â thanberfformio.
Yr ymgyrch i recriwtio athrawon
Roedd y Grwp yn falch o glywed bod canlyniadau’r ymgyrch hon yn gadarnhaol iawn ar hyn o bryd, gyda dwywaith nifer yr ymgeiswyr yn cyflwyno cais ar gyfer Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol Penaethiaid (CPCP) nag sydd wedi bod yn y gorffennol.
Estyn
Daeth Mark Campion o Estyn i’r cyfarfod i drafod Arolygiad Estyn ERW ac i roi’r diweddaraf i ni am y fframwaith newydd i ysgolion, yr awdurdod lleol ac arolygiadau rhanbarthol. I grynhoi, clywodd y cynghorwyr y canlynol:
- bydd Estyn yn ymweld ag ERW ym mis Tachwedd 2017 i gael y diweddaraf (gofynnodd Llywodraeth Cymru i Estyn arolygu’r pedwar consortia a chytunwyd ymlaen llaw y bydd camau dilynol yn cael eu cymryd flwyddyn ar ôl yr arolygiad). Nid oes unrhyw waith ychwanegol yn yr arfaeth eto.
- bydd Estyn yn dechrau ar y cylch o dreialu arolygiadau’r awdurdod lleol dros y misoedd nesaf, gan ddechrau gyda dau awdurdod lleol yn y lle cyntaf. Yn y cylch newydd bydd pob awdurdod lleol yn cael ei arolygu dros gyfnod o 5 mlynedd, a bydd ERW yn cael ei gynnwys bob blwyddyn fel rhan o arolygiad ALl unigol.
- mae cylch o arolygiadau ysgolion unigol bellach ar waith dan y fframwaith arolygu newydd yn dilyn cyfnod treialu y llynedd.
- bydd addysg ar ôl-16 a chweched dosbarth yn fwy amlwg mewn arolygiadau yn y dyfodol gan ni roddwyd llawer o ffocws i’r agwedd hon yn y gorffennol.
Leave a Comment