Gwelwyd bod llwyth o dystiolaeth sy’n awgrymu bod buddsoddiad yng ngwasanaethau’r blynyddoedd cynnar gan gynnwys parodrwydd plant i ddechrau’r ysgol, sy’n hynod fuddiol, nid yn unig i blant a’u teuluoedd, ond i gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Mae tystiolaeth y gall y buddsoddiad hwn helpu i dorri’r cylch anfantais yn ein cymunedau drwy newid cyfleoedd bywyd plant.
Roedd gan gynghorwyr o’r Panel Craffu ddiddordeb mewn archwilio’r enghreifftiau helaeth o arfer da a ddangosir sy’n helpu i wneud plant a rhieni’n barod am yr ysgol. Roedd hyn yn cynnwys, er enghraifft, ymweliad ag Ysgol Gynradd San Helen a Dechrau’n Deg lle maent yn ymdrechu i fod yn ysgol sydd yng nghanol y gymuned, a dywedodd y rhieni y siaradon ni â nhw eu bod wedi cyflawni’r nod hwn. Ymwelon nhw â Cham wrth Gam a Chanolfan Plant Abertawe hefyd lle maent yn gweithio i ddatblygu pa mor barod y mae plant, yn ogystal â’u rhieni, i fynd i’r ysgol yn gorfforol ac yn emosiynol.
Fodd bynnag, canfyddiad allweddol o’n hymchwiliad oedd nid plant a rhieni’n unig oedd angen bod yn fwy parod i fynd i’r ysgol, ond mae’n rhaid i ysgolion eu hunain fod yn “fwy parod i dderbyn plant”. Teimlwyd ganddynt y gellid rhoi her fwy cadarn i ysgolion ar yr agwedd hon.
Daeth y Panel o hyd i fylchau mewn darpariaeth gwasanaethau i deuluoedd yn Abertawe. Yn benodol, cefnogaeth amlasiantaeth drwy Dechrau’n Deg, sydd ond ar gael i oddeutu chwarter o blant a’u teuluoedd yn Abertawe. Cydnabyddom fod hyn yn seiliedig ar ardaloedd a nodir bod ganddynt yr angen mwyaf ond rydym yn ymwybodol bod angen y fath hon o gefnogaeth ar blant ar draws rhannau eraill o Abertawe. Byddai’r holl blant yn elwa o’r fath ddarpariaeth, felly hoffem weld yr arfer gwych ac ethos Dechrau’n Deg yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd eraill.
Cyfarfu’r Panel naw gwaith dros gyfnod o bedwar mis er mwyn cwblhau’r ymchwiliad hwn. Hoffai’r Cynullydd, Hazel Morris, ddiolch i aelodau’r Panel Ymchwiliad a roddodd o’u hamser a’u hymrwymiad, ac i’r holl bobl a roddodd dystiolaeth a gwybodaeth i’r Panel.
Leave a Comment