Y ffordd orau o drechu tlodi yw gweithio gyda’r bobl y mae tlodi yn effeithio arnynt

Mae Cynghorwyr Craffu yn Abertawe wedi bod yn ystyried y ffyrdd y gall y cyngor wella ei Strategaeth Trechu Tlodi. Eu prif gasgliad yw ei bod hi’n hanfodol bod y bobl hynny sy’n wynebu tlodi’n cael eu cynnwys mewn ffordd bwerus ac ystyrlon wrth ddatblygu a chyflwyno strategaeth.

Dywedodd Cynullydd y Panel, y Cynghorydd Sybil Crouch:

Mae trechu tlodi yn allweddol i gefnogi iechyd a lles ein dinasyddion a’n dinas.  Clywsom dystiolaeth bwerus gan bobl sy’n wynebu tlodi ac rydw i’n arbennig o ddiolchgar iddynt am roi o’u hamser i sôn wrthym am yr hyn y maent yn ei wynebu o ddydd i ddydd. Cafodd eu tystiolaeth a’u dewrder yn wyneb problemau cymhleth lawer o effaith arnaf. Mae’r Strategaeth Trechu Tlodi yn rhoi cryn bwyslais ar yr angen i gynnwys pobl sy’n profi tlodi, hebddyn nhw “nid oes canlyniad”.”

Cafodd model Gwirionedd am Dlodi Leeds argraff dda iawn ar y Cynghorwyr Craffu ac maent wedi annog y cyngor i sefydlu rhywbeth tebyg yn Abertawe. Mae’r ymagwedd hon yn dod â’r bobl sy’n profi tlodi a’r rheiny sy’n rhan o fywyd dinesig at ei gilydd, megis arweinwyr busnesau a gwasanaethau cyhoeddus, i weithio ar yr heriau y cytunwyd arnynt ar y cyd.

Mae’r cynghorwyr yn credu y gallai’r model hwn, sydd wedi’i addasu ar gyfer amgylchiadau Abertawe ddarparu her a newid mewn diwylliant ond gallai hefyd fod yn fodel blaenllaw ar gyfer y strategaeth – gan ddangos yr ymrwymiad i gynnwys pobl sy’n wynebu tlodi.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd cynnwys pobl sy’n wynebu tlodi hefyd mewn tystiolaeth a glywodd y cynghorwyr gan Sefydliad Bevan a Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn un o’u sesiynau.

Mae trechu tlodi yn un o bum blaenoriaeth bwysicaf y cyngor a chanolbwyntiodd yr ymchwiliad ar sut gellir gwella’r Strategaeth Trechu Tlodi.  Bydd yr adroddiad ymchwilio craffu a’r argymhellion yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ar 16 Mawrth, a fydd wedyn yn rhoi ymateb yn ystod y misoedd nesaf.

Mae cynigion eraill yr adroddiad yn cynnwys:

  • Meithrin cysylltiadau cryfach rhwng y Strategaeth Trechu Tlodi a gwaith adfywio economaidd y cyngor.
  • Creu cynllun gweithredu sy’n cynnwys holl adrannau’r cyngor.
  • Gweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn sicrhau cydweithio effeithiol gydag asiantaethau partner.
  • Meithrin cysylltiadau cryfach â’r Cynllun Lles, sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

Yn ystod yr ymchwiliad, a gynhaliwyd yn ystod ail hanner 2016, clywodd y cynghorwyr gan swyddogion y cyngor, partneriaid, melinau trafod, gweithwyr rheng flaen a phobl sy’n wynebu tlodi.
Mae’r adroddiad llawn a’r pecyn tystiolaeth o’r ymholiad ar gael ar ein tudalennau cyhoeddiadau yma.

Cynhaliwyd y gweithdai ar gyfer pobl sy’n wynebu tlodi gan Dynamix.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.