Tai Amlfeddiannaeth yn Abertawe

swanseamaisons

Mae Gweithgor Craffu Tai Amlfeddiannaeth (HMO) bellach wedi gorffen ei waith ac mae cynghorwyr wedi ysgrifennu llythyr at aelodau Cabinet y cyngor yn lleisio eu barn, eu casgliadau a’u hargymhellion yn dilyn ymchwilio i’r pwnc hwn.

Hoffai’r Gweithgor ddiolch i’r aelodau hynny o’r cyhoedd sydd wedi cyflwyno eu barn yn ysgrifenedig ac yn bersonol. Mewn crynodeb, amlygwyd y rhain fel a ganlyn:

  • Yr angen i gymunedau deimlo bod pobl yn gwrando arnynt, eu bod nhw’n cael eu parchu a’u gwerthfawrogi, yn enwedig mewn ardaloedd lle ceir crynhoad mawr o dai amlfeddiannaeth
  • Demograffeg newidiol rhai ardaloedd o Abertawe ac effaith hyn ar gydlyniant cymunedol (gan gynnwys preswylwyr, y cyfleusterau sydd ar gael yn yr ardaloedd a chynaladwyedd grwpiau cymunedol)
  • Yr effaith s?n, ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau strydlun a achosir gan grynoadau mawr o dai amlfeddiannaeth ar gymunedau/unigolion sy’n byw yn yr ardaloedd hynny
  • Yr ofn y bydd St Thomas, heb ymyriad, yn wynebu problemau tebyg i’r rheini yn ardal yr Uplands
  • Angen gosod terfyn ar nifer y tai amlfeddiannaeth er mwyn iddynt gael eu gwasgaru ar draws Abertawe yn hytrach na chrynhoi mewn rhai ardaloedd penodol
  • Yr angen i chwilio am ffyrdd o annog ail-addasu eiddo yn gartrefi i deuluoedd
  • Crynodiadau sy’n andwyol o bosib a chymarebau a radiws tai amlfeddiannaeth arfaethedig o geisiadau am eiddo

Roedd cynghorwyr yn ymwybodol y trafodwyd Canllawiau Cynllunio Atodol ar dai amlfeddiannaeth yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 10 Ionawr a’i fod erbyn hyn yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus. Rydym yn croesawu’r canllaw newydd hwn a hoffwn annog aelodau o’r cyhoedd i leisio eu barn yn uniongyrchol fel rhan o’r broses hon.

 

Yn dilyn ei ystyriaeth o’r wybodaeth berthnasol a’r materion a godwyd gan swyddogion a’r cyhoedd, cynigwyd nifer o argymhellion gan y Gweithgor i aelodau’r Cabinet yn eu llythyr, sef:

  1. Nodwyd gwarged ariannol yn deillio o incwm a dderbyniwyd drwy ffioedd trwyddedu ar ôl talu cyflogau’r swyddogion tai amlfeddiannaeth. Daeth y gwarged hwn i’r amlwg drwy ffigurau a ddarparwyd gan yr adran ac o gwestiynau gan aelodau’r gweithgor i swyddogion. Argymhellwn ddefnyddio’r gwarged hwn er mwyn cynyddu nifer y swyddogion trwyddedu tai amlfeddiannaeth.
  • Cyflwyno adolygiad o’r cynllun trwyddedu HMO ychwanegol i’w gytuno yng nghyfarfod y cyngor ym mis Hydref 2017, er mwyn ei weithredu ym mis Mawrth 2018 a defnyddio’r cyfle hwn i:
  • Godi’r ffi i landlordiaid, a defnyddio unrhyw warged a nodir rhwng ffioedd incwm a chostau i gyflogi swyddogion gorfodi ychwanegol. Bydd hyn yn galluogi’r gwasanaeth fod yn rhagweithiol yn hytrach nag yn ymatebol, gan ganiatáu gorfodi deddfwriaeth bresennol yn fwy effeithiol, yn enwedig ynghylch monitro HMO dros y cyfnod pum mlynedd.
  • Pennu’r sail dystiolaeth ar gyfer ystyried trwyddedu HMO ychwanegol ar draws Dinas a Sir Abertawe drwy ymgymryd â gwaith arolwg rhagweithiol ar unwaith, gan ddechrau gyda ward St Thomas. Dylid cwblhau’r arolwg ar gyfer y ward hon erbyn mis Ebrill 2017.
  1. Hyrwyddo:
  2. i) gofynion deddfwriaethol newydd Rhentu Doeth Cymru i landlordiaid a thenantiaid, sy’n galluogi tenantiaid a darpar-denantiaid i ganfod landlordiaid cofrestredig ac asiantiaid â thrwydded.
  3. ii) cofrestr gyhoeddus o HMOs trwyddedig ar wefan y cyngor abertawe.gov.uk/cofrestrhmo

iii) Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a’r rhwymedigaethau ar ddeiliaid tai o ran gwastraff, sbwriel a niwsans.

Yn ychwanegol at yr uchod, cysylltu â Chyngor Wrecsam i ddysgu am ei arfer lle gwahaniaethir rhwng landlordiaid da ac nid mor dda.‘Gwahanu’r Da oddi wrth y Drwg’ – Caiff y gofrestr gyhoeddus ei hyrwyddo fel y man mwyaf priodol lle gellir dod o hyd i lety i’w rannu. Dylai hyn helpu tenantiaid i osgoi eiddo is-safonol a landlordiaid drwg a bydd yn sicrhau bod tenantiaid yn cael eu cyfeirio at HMOs trwyddedig.’ Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

  1. Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol yn diffinio trothwy lle bydd crynhoad neu ddwysâd ychwanegol o dai amlfeddiannaeth yn andwyol o fewn radiws 50m o gynnig
  2. Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol yn diffinio trothwy HMO fel:
    1. Nid yn fwy na 20% o’r Ardal Rheoli HMO ddynodedig
    2. Nid yn fwy na 10% o weddill y Ddinas a’r Sir

(mae’r Gweithgor yn derbyn y ceir eithriadau  byddai’n rhaid eu hasesu ar eu rhinwedd eu hunain)

  1. Cyngor ar ynysiad rhag s?n i holl eiddo HMO trwyddedig ar gyfer 3+ o bobl.
  2. Cymryd camau yn erbyn landlordiaid/tenantiaid sy’n symud neu’n ymyrryd â mecanweithiau cau ar ddrysau tân mewn eiddo HMO. Dylid gorfodi gofynion am gau drysau tân a’u cadw a’u cynnal yn gywir yn fwy cadarn.
  3. Ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnig anogaeth ar gyfer ail-addasu HMOs yn ôl i gartrefi ar gyfer teuluoedd.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.