Bydd aelodau’r cyhoedd a chynghorwyr yn cael cyfle i roi cwestiynau am y gyllideb yn uniongyrchol i Arweinydd Cyngor Abertawe.
Cynhelir cyfarfod arbennig y Panel Perfformiad Craffu Gwella Gwasanaeth a Chyllid ddydd Mawrth 7 Chwefror am 10am yn Siambr y Cyngor, y Ganolfan Ddinesig. Diben y cyfarfod fydd trafod cynigion cyllidebol y cyngor ar gyfer 2017/18.
Bydd y Cynghorydd Rob Stewart (yr Arweinydd), Cyfarwyddwr Adnoddau’r cyngor a’r Prif Swyddog Cyllid yn ateb cwestiynau gan y cyhoedd a chynghorwyr ynghylch y cynigion cyllidebol.
Mae hyn i gyd yn rhan o’r cyfnod cyn cyfarfod y cyngor llawn a gynhelir ar 23 Chwefror lle caiff y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf ei phennu.
Bydd cynullydd y panel, y Cynghorydd Chris Holley, yn cyflwyno canfyddiadau ac arsylwadau’r panel yng nghyfarfod y Cabinet ar 9 Chwefror fel y gellir eu hystyried yn ystod trafodaeth y cyngor o’r gyllideb.
Mae’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd. Os hoffai pobl ddod i ofyn cwestiwn, dylent gysylltu â’r Tîm Craffu ar 01792 636292. Gellir cyflwyno cwestiynau hefyd drwy e-bost i craffu@abertawe.gov.uk, neu yma ar dudalen y blog craffu.
Neilltuir 20 munud yn y cyfarfod ar gyfer cwestiynau gan y cyhoedd. Nid oes rhaid rhoi hysbysiad o gwestiwn gan y cyhoedd ond bydd unrhyw gwestiwn a gyflwynir ymlaen llaw yn cael blaenoriaeth o fewn yr amser a neilltuwyd.
Leave a Comment