Bydd cynghorwyr yn cwrdd ar 29 Tachwedd 2016 i drafod y cynnydd a wnaed gan y cyngor mewn perthynas â’r argymhellion a wnaed i wella gwasanaethau addysg heblaw am yr ysgol yn Abertawe. Gofynnwyd i Aelod y Cabinet beth oedd effaith y gwaith hwn, ac meddai yn ei adroddiad dilynol bod yr ymholiad wedi:
- codi proffil y mater dan sylw
- gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r materion
- bod yn ymchwil ac yn dystiolaeth ddefnyddiol ac
- bod gweithredu’r argymhellion yn eu cyfanrwydd wedi cael effaith gadarnhaol.
Mae gwella gwasanaethau addysg heblaw yn yr ysgol yn un o flaenoriaethu Cynghorwyr Craffu yn Abertawe. Ym mis Hydref 2015, cyhoeddodd cynghorwyr eu hadroddiad ar gynhwysiad addysg. Mae’r adroddiad yn rhoi pwyslais penodol ar y gwasanaethau addysg heblaw yn yr ysgol. Dewiswyd y pwnc ar gyfer yr adolygiad yn wreiddiol gan fod cynghorwyr am sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ei botensial llawn drwy wneud yn si?r y gallant gael mynediad i addysg hyd yn oed os nad ydynt yn gallu mynd i ysgol brif ffrwd. Roedd cynghorwyr hefyd yn dymuno edrych ar wasanaethau addysg heblaw yn yr ysgol yn lleol ar ôl darllen adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru a ddaeth i’r casgliad bod arferion anghyson mewn unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru a’u bod yn cael eu gweld yn aml fel ôl-ystyriaeth o ran blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
Siaradodd Cynghorwyr Craffu â nifer o bartïon â diddordeb, gan gynnwys penaethiaid o Ysgolion Cyfun yr Esgob Gore a Phentrehafod ac Ysgol Gynradd y Clâs, Gyrfa Cymru Gorllewin, y Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid, Gwasanaeth Ieuenctid Abertawe a’r gwasanaethau cymdeithasol.
Cwblhawyd yr ymchwiliad yn gynnar ym mis Hydref ac mae’n nodi’r deg argymhelliad canlynol. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys 20 o argymhellion a gaiff eu cyflwyno i Gabinet y Cyngor ar 19 Tachwedd.
- Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol, ysgolion a’r gwasanaeth addysg heblaw yn yr ysgol ddiwallu anghenion y gr?p hwn o blant diamddiffyn yn well.
- Mae angen gwella cyfathrebu rhwng gweithwyr proffesiynol.
- Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar ailintegreiddio pobl ifanc yn ôl i’r ysgol.
- Mae angen i Bwyllgor Rheoli’r Uned Cyfeirio Disgyblion annog gwelliant yn y gwasanaethau addysg heblaw yn yr ysgol.
- Mae angen i staff Unedau Cyfeirio Disgyblion fod yn rhan o hyfforddiant a datblygiad prif ffrwd.
- Mae angen ymagwedd gyfannol dechrau a diwedd dydd ar gyfer y gr?p hwn o blant a phobl ifanc.
- Gwella ansawdd gwasanaethau ar gyfer y gr?p hwn o blant a’u deilliannau.
- Gwella gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc 16+ oed sy’n trosglwyddo i oedolaeth.
- Sicrhau bod llais y disgybl yn cael ei glywed ar gyfer y gr?p hwn o blant a phobl ifanc diamddiffyn.
- Gwella adeiladwaith ac addasrwydd yr adeiladau a ddefnyddir i addysgu’r plant hynny sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol.
Leave a Comment