Y Panel Craffu ar Wella Gwasanaethau a Chyllid yw’r corff sy’n gyfrifol am sicrhau bod cyllideb y cyngor, a’i drefniadau gwella corfforaethol a gwasanaethau’n effeithiol ac yn effeithlon. Rhwng yn awr a’r Nadolig, bydd yn cynnal tri chyfarfod sy’n trafod amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:
23 Tachwedd
- Adroddiad Cwynion Corfforaethol Blynyddol
- Strategaeth Ddigidol newydd
- Adroddiad Chwarterol Monitro’r Gyllideb
12 Rhagfyr
Craffu cyn-penderfynu:
- Adolygiad Comisiynau Parciau a Glanhau
Fel rhan o “Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i’r Dyfodol” mae holl wasanaethau’r cyngor yn rhan o’r broses adolygu comisiynu. Diben hyn yw herio’r hyn y mae’r cyngor yn ei wneud a sut gall gyflwyno’r gwasanaethau orau, gyda chyllidebau llai. Mae craffu’n rhan bwysig o’r broses hon er mwyn i gynghorwyr herio a monitro’r broses.
20 Rhagfyr
- Monitro Perfformiad Blynyddol Ailgylchu a Thirlenwi
- Adroddiad Monitro Chwarterol ar Berfformiad Corfforaethol
Mae cyfarfodydd craffu’n agored i’r cyhoedd ac mae croeso i chi ddod. Ffoniwch y tîm craffu ar 01792 636292 neu e-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
Leave a Comment