Cyfarfu Gr?p Cynghorwyr Craffu Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) ar 27 Medi 2016, ac un o’r materion a drafodwyd ganddynt oedd sut mae pob corff craffu awdurdod lleol yn herio ei ysgolion a’r hadran addysg wrth edrych ar y modd y caiff y grand amddifadedd disgyblion ei warion ar ddysgwyr diamddiffyn.
Trafododd y gr?p fframwaith o ‘bethau sy’n gweithio’ gan gynnwys edrych ar, er enghraifft, y bwlch mewn cyrhaeddiad, trechu tlodi a chysylltu â’r grant amddifadedd disgyblion.
O’r sesiwn hon, nododd y gr?p nifer o gwestiynau allweddol y gall cyrff craffu unigol eu gofyn pan fyddant yn siarad ag ysgolion a’u hadran addysg am y mater hwn:
- Ar beth rydych chi’n gwario’ch Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD)?
- A yw wedi gwneud gwahaniaeth: Ydy e’n gweithio? Oes tystiolaeth am sut mae’n gweithio?
- Pam rydych chi’n targedu arian ar…(a yw’n fater penodol yn eich ysgol)?
- Sut mae’ch gwariant GAD yn cysylltu â’r blaenoriaethau a nodwyd yn eich Cynllun Gwella Ysgol?
- Ydych chi’n cysylltu â rhanddeiliaid eraill er enghraifft Iechyd?
- Ydych chi’n gweithio ar draws clwstwr o ysgolion i gronni a rhannu’ch gwariant GAD a chyflwyno gwelliannau’n fwy helaeth?
- Sut ydych chi’n cynnwys rhieni disgyblion diamddiffyn (disgyblion prydau ysgol am ddim cPYDd)
- Beth rydych chi’n ei wneud i sicrhau agweddau dyheadol cadarnhaol yn eich ysgol at ddisgyblion ddisgyblion cPYDd?
- Beth rydych chi’n ei wneud ynghylch datblygiad proffesiynol parhaus?
- Ydych chi’n dylanwadu ar hyfforddiant cychwynnol i athrawon o ran cPYDd a’r bwllch mewn cyrhaeddiad?
Mae rhanbarth ERW yn cynnwys chwe awdurdod lleol ac mae’r rhain yn cynnwys Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro, Powys, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae mwy o wybodaeth am ERW ar gael yma.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am graffu, gallwch fynd i’n gwefan yma.
Leave a Comment