Hoffai cynghorwyr craffu wybod am effeithiolrwydd yr offer a’r technegau ar gyfer ymyrryd i ysgolion yn Abertawe ac maent yn bwriadu siarad â phenaethiaid gwahanol yn Abertawe i gael amcan o’r farn am yr ymyriadau gwahanol a ddefnyddir mewn ysgolion yn yr ardal.
Bydd cynghorwyr y Panel Craffu Ysgolion yn cyfarfod â’r pennaeth Peter Evans o Ysgol Gynradd Sgeti yn eu cyfarfod ar 29 Medi i ddechrau’r ymarfer hwn. Maent wedi cytuno ar gyfres o gwestiynau allweddol y byddant yn eu trafod ag ef a’r penaethiaid eraill maent yn siarad â nhw. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Pa ymyriad a mentrau ydych chi’n eu defnyddio?
- Sut rydych chi’n monitro llwyddiant eich ymyriadau a’ch mentrau?
- Pa rai a fu fwyaf llwyddiannus?
- Pa rai nad ydynt wedi bod mor llwyddiannus?
- Beth yw’r prif rwystrau/heriau i ddatblygu’r rhaglenni ymyrryd a mentrau hyn ymhellach?
- Sut clywsoch chi am yr ymyriadau a’r mentrau penodol hyn?
- Rhowch enghraifft o broses rhoi un o’r rhaglenni ymyrryd neu fentrau hyn ar waith?
- Sut rydych chi’n ariannu’r rhaglenni ymyrryd rydych yn eu defnyddio?
- Sut rydych chi’n rhannu’ch arfer da?
- Sut rydych chi’n defnyddio arfer da i helpu i wella’r ymyriadau a’r mentrau rydych chi’n eu defnyddio?
- Oes gennych ymyriadau neu fentrau neu ydych chi wedi gweld ymyriadau neu fentrau y byddech efallai’n ystyried eu rhoi ar waith yn y dyfodol?
Bydd aelodau’r panel yn rhoi eu barn a’u hargymhellion sy’n codi o’r ymarfer hwn mewn llythyr at Aelod y Cabinet dros Addysg.
Os hoffech arsylwi ar y cyfarfod hwn neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyn neu graffu’n fwy cyffredinol, ewch i www.abertawe.gov.uk/craffu
Llun trwy garedigrwydd: Ysgol Gynradd Sgeti
Leave a Comment