Mae gan gorff craffu ar addysg Cyngor Abertawe, y Panel Craffu ar Berfformiad Ysgolion, y gwaith o ddarparu her barhaus i berfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon uchel a’i fod yn bodloni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.
Dyma’r cyfarfodydd sydd yn yr arfaeth ar gyfer y panel hwn:
1 Medi am 4.00pm (Ystafell Bwyllgor 6 yn Neuadd y Ddinas) – bydd y panel yn edrych ar y Gwasanaeth Gwella Ysgolion gan gynnwys gwella ansawdd dysgu ac addysgu a chysondeb asesiadau athrawon
29 Medi am 4.oopm (Ystafell Gyfarfod 6 yn Neuadd y Ddinas) – bydd y panel yn cwrdd â Phennaeth Ysgol Gynradd Sgeti i drafod y cyfarpar a’r dulliau maent yn eu defnyddio ar gyfer ymyrraeth i wella lles a chyrhaeddiad disgyblion.
Gallwch gael copïau o’r holl agendâu craffu ar ein gwefan yn www.abertawe.gov.uk/cyhoeddiadaucraffu (bydd papurau ar gyfer y ddau gyfarfod ar gael ar ddiwedd yr wythnos cyn y cyfarfod).
pic courtesy www.thewhocarestrust.org.uk
Leave a Comment