Mae ymchwiliad craffu newydd wedi dechrau sy’n ystyried dulliau o wella Strategaeth Trechu Tlodi’r cyngor.
Dros y misoedd nesaf, bydd y panel yn ystyried llawer o agweddau ar y gwaith o drechu tlodi ac yn ceisio ateb y cwestiwn ‘Sut gellir gwella Strategaeth Trechu Tlodi’r cyngor?’
Mae trechu tlodi’n un o flaenoriaethau corfforaethol y cyngor, felly mae aelodau’r panel am weld a ellir gwneud unrhyw welliannau iddi. Maent am glywed barn amrywiaeth eang o bobl er mwyn iddynt allu cynnig newidiadau ymarferol a all wella’r Strategaeth Trech Tlodi.
Gellir gweld y Strategaeth Trechu Tlodi, ynghyd â dogfennau ategol, yma.
Prif Lwybrau Ymholi
- Cynllun Gweithredu: Pa mor dda y mae’r cynllun gweithredu wedi’i gyflwyno? Sut dylid ei ddiweddaru a’i wella?
- Ardaloedd Targed: Mae’r polisi hwn yn ganolog i’r strategaeth. A gaiff y polisi ardaloedd targed ei gyflwyno’n gyson a’i ddeall?
- Gweithio mewn Partneriaeth: Ni all y cyngor drechu tlodi ar ei ben ei hun. Beth fu rôl y Bwrdd Gwasanaethau Lleol o ran datblygu a chyflwyno’r strategaeth? Pa rôl ddylai Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus ei chyflawni yn y dyfodol?
Prif Lwybrau Ymholi
- Canlyniadau: Er bod y strategaeth yn un tymor hir, mae’n bwysig gwybod y canlyniadau a ddisgwylir a’r hyn sydd wedi’i gyflawni yn y tymor byr. A ellir nodi’r canlyniadau ac ai dyma’r canlyniadau tymor hir cywir wrth symud ymlaen?
- Adnoddau: Mae’r strategaeth yn ceisio newid sylfaenol yn y modd y mae’r cyngor yn gweithredu. I ba raddau y mae’r strategaeth wedi dylanwadu ar gyllideb y cyngor a denu adnoddau?
- Cynghorwyr: Er bod cynghorwyr yn chwarae rôl weithredol yn eu cymunedau, efallai nad ydynt yn cymryd rhan lawn yn y strategaeth. Sut gellir gwella hyn?
- Trawsbynciol: Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen i’r strategaeth ddylanwadu ar y modd y mae pob adran yn gweithredu. A yw hyn wedi digwydd? Sut gallai’r strategaeth fod yn fwy trawsbynciol?
- Ymwybyddiaeth: Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen i’r strategaeth gael ei deall yn helaeth. A yw pobl heblaw am y rhai y mae’r strategaeth yn ymwneud yn uniongyrchol â hwy’n deall y stratgeaeth a’r hyn y mae’n ei olygu iddynt?
- Yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio: Beth mae’r strategaeth wedi gwneud yn dda? Sut gall y cyngor wneud mwy o’r hyn sy’n gweithio?
Sut i gyflwyno eich barn …
Anogir grwpiau neu unigolion â diddordeb i gyflwyno eu tystiolaeth ysgrifenedig trwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk. Fel arall, mae’r panel wedi llunio arolwg y gellir ei gwblhau yma. Cynhelir yr arolwg tan ddiwedd 28 Hydref 2016.
Efallai y bydd y panel yn cysylltu â chi i drafod eich tystiolaeth. Bydd yr holl dystiolaeth a gyflwynir fel arfer yn cael ei chyhoeddi fel rhan o’r ymchwiliad. Os nad ydych am i’ch tystiolaeth gael ei chyhoeddi, nodwch hynny.
Gweler agendâu a llythyrau’r ymholiad hwn yma.
Leave a Comment