Cyfarfu Gr?p Cynghorwyr Craffu Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) ar 11 Mawrth 2016 ac un o’r materion a drafodwyd oedd sut mae pob awdurdod lleol yn mynd ati i graffu ar ysgolion unigol.Profodd fod amrywiaeth o ffyrdd o graffu ar ysgolion ar draws rhanbarth ERW ond cytunodd yr holl gynghorwyr fod y sesiynau craffu ag ysgolion unigol yn bwysig i sicrhau bod aelodau’n goruchwylio ac yn herio addysg mewn modd cadarn a chadarnhaol.
O’r sesiwn hon, nododd y gr?p nifer o ‘bwyntiau dysgu’ i’w rhannu, gan gynnwys y canlynol:
- Yn aml, y ffordd orau o wneud y math hwn o graffu yw mewn gweithgorau llai yn hytrach na phwyllgorau mwy.
- Mae cysondeb aelodaeth y corff craffu’n fuddiol er mwyn i aelodau ddatblygu eu harbenigedd.
- Mae’n bwysig edrych ar ysgolion sy’n peri pryder ond hefyd y rhai sy’n arddangos arfer gwych.
- Mae’n ddefnyddiol cael asesiad o berfformiad presennol yr ysgol gan yr Ymgynghorydd Herio dynodedig cyn y sesiwn gyda’r ysgol.
- Mae’n bwysig defnyddio ymagwedd gyson at ddewis ysgolion i siarad â hwy, er enghraifft, defnyddio’r data categoreiddio cefnogi ysgolion.
- Mae rhoi adborth i ysgolion yn bwysig, ac mae’n bwysig hefyd fod yr ysgol yn ystyried y broses yn un defnyddiol.Mae hefyd yn fuddiol cynnwys disgyblion yn y broses.
- Teimlai rhai y dylid cynnal y sesiynau gydag ysgolion yn gyhoeddus, ond roedd eraill yn teimlo bod cynnal sesiwn anffurfiol ond caeedig yn fwy effeithiol.
- Mae’n bwysig cael cyfres glir o gwestiynau/llwybrau ymholi a rennir gyda’r ysgol ymlaen llaw, ac a ddefnyddir yn y cyfarfod fel sail i’r drafodaeth.
- Mae’n bwysig bod sesiynau gydag ysgolion yn edrych ar faterion craidd, er enghraifft:
- A yw’r ysgol yn datblygu ei gallu i hunan-wella
- A oes ganddi arweinyddiaeth effeithiol ac uwch-dîm rheoli cadarn.
- A yw’r ysgol yn derbyn cefnogaeth a her briodol gan y Corff Llywodraethu
- A yw’r ysgol a’r Corff Llywodraethu yn defnyddio data am berfformiad yr ysgol yn effeithiol
- Pa rwystrau y mae’r ysgol yn eu hwynebu i barhau i wella.
- Dylid rhannu’r meysydd arfer da a nodwyd.
- Caiff y meysydd a nodwyd ar gyfer gweithredu ac i’w gwella eu datblygu – dull clir ar waith i wneud hyn gyda’r awdurdod lleol.
- Mae’n bwysig bod yr ysgol/cadeirydd y llywodraethwyr yn deall diben y sesiwn a bod y sesiwn yn fforwm ar gyfer trafodaeth agored.
Mae rhanbarth ERW yn cynnwys chwe awdurdod lleol ac mae’r rhain yn cynnwys Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro, Powys, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.Mae mwy o wybodaeth am ERW ar gael yma.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am graffu, gallwch fynd i’n gwefan yma.
Leave a Comment