- Beth mae’n ei feddwl y dylai Panel Craffu Perfformiad Ysgolion y cyngor edrych arno dros y blynyddoedd nesaf?
- Pa faterion mae’n ei feddwl sydd bwysicaf ym myd addysg ar hyn o bryd?
- A oes meysydd ym myd addysg y gallai cynghorwyr edrych arnynt a fyddai’n gwneud gwahaniaeth ac yn ychwanegu gwerth?
Yn ei gyfarfod ar 11 Mai, bydd Panel Craffu Perfformiad Ysgolion yn dechrau cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Brîff y panel yw darparu her barhaus i berfformiad ysgolion i sicrhau bod disgyblion Abertawe’n cael addysg o safon; ac mae’r awdurdod yn bodloni ei amcanion o ran gwella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.
Mae’r panel wedi cysylltu â chynghorwyr, penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion Abertawe gan ofyn iddynt gyfrannu at ei raglen waith.
A oes unrhyw faterion y dylai’r Panel Craffu Perfformiad Ysgolion eu hystyried yn eich tyb chi?
Gallwch ein e-bostio yn scrutiny@swansea.gov.uk
Leave a Comment