Mae Cynghorwyr Craffu’n ystyried adeiladu cymunedau cynaliadwy drwy ddatblygu gweithredu yn y gymuned. Mae Cynghorwyr yn canolbwyntio’n benodol ar sut gall y cyngor roi’r gefnogaeth orau i breswylwyr er mwyn iddynt gynnal rhai gwasanaethau yn eu cymunedau eu hunain.
Mae cynghorwyr wedi dewis edrych ar y testun hwn am y rhesymau canlynol:
- Er mwyn cynnal gwasanaethau lleol pwysig bydd angen i’r cyngor edrych ar wahanol ffyrdd o’u cyflwyno mewn modd radical. Bydd partneriaeth â chymunedau lleol yn cynnig ateb i gynnal rhai gwasanaethau. Defnyddiwyd y term gweithredu yn y gymuned i esbonio peth o’r gweithgaredd hwn.
- Mae angen i ni adeiladu a chefnogi cymunedau cynaliadwy oherwydd bydd hyn yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl ac yn lleihau costau gwasanaethau.
- Mae modelau presennol o gyflwyno gwasanaethau’n anghynaladwy, ac nid ydynt yn darparu’r canlyniadau gorau i bobl bob tro.
- Mae angen i ni adeiladu cymunedau cryf, grymus a chydlynol sy’n gallu uno pobl, dylanwadu ar wneud penderfyniadau ac arwain ar weithredu yn y gymuned, gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros fentrau a materion cymunedol.
Hyd yn hyn, mae Cynghorwyr Craffu wedi gwneud y canlynol fel rhan o’r gwaith hwn:
- edrych ar y gronfa drawsnewid a sut mae’r prosiect yn cysylltu â’r agenda dlodi
- sut mae’r cyngor yn paratoi ar gyfer agweddau cyfreithiol ar weithredu yn y gymuned ac yn mynd i’r afael â hwy
- cwrdd â chysylltwyr cymunedol, cydlynwyr ardaloedd lleol, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe a staff Cymunedau’n Gyntaf
- cwblhau arolwg sydd ar gael i’r cyhoedd, cynghorwyr a sefydliadau cymunedol
Mae’r Panel bellach yn bwriadu:
- 14 Ebrill – Cwrdd â chynrychiolwyr o Ganolfannau Cymunedol ar draws Abertawe
- 14 Ebrill – Cwrdd â’r Pennaeth Gwasanaethau Eiddo Corfforaethol
- 27 Ebrill – Edrych ar ymchwil pen desg o enghreifftiau o arfer da
- 27 Ebrill – Edrych ar ymatebion yr arolwg
- Mehefin – Cyfuno’u canfyddiadau a llunio adroddiad i’r Cabinet gan wneud argymhellion ar gyfer gwella.
Os hoffech gyfrannu at yr ymchwiliad hwn, gallwch wneud hynny drwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk
Leave a Comment