Yn ddiweddar sefydlodd Cynghorwyr Craffu weithgor i gwrdd â’r Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Genhedlaeth Newydd, sy’n gyfrifol am dai’r cyngor, er mwyn trafod cynnydd y cyngor tuag at gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Mae’n ofyniad dan y safon i bob landlord cymdeithasol wella’u stoc tai hyd lefel dderbyniol erbyn 2020, i sicrhau bod pob cartref o safon ac yn addas at anghenion preswylwyr presennol ac yn y dyfodol.
Roedd yn dda gan y cynghorwyr i glywed bod y cyngor ar y trywydd iawn i gyflwyno SATC i bob t?’r cyngor erbyn 2020. Nododd cynghorwyr fod adborth gan denantiaid yn eu wardiau yn gadarnhaol iawn ac estynnwyd llongyfarchiadau i swyddogion ar y gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn a’r cynnydd cyflym yn y rhaglen fuddsoddi. Roedd yn amlwg bod gan y cyngor ddealltwriaeth dda o’r hyn sy’n ofynnol i gyflawni’r safon erbyn 2020 a bod y mecanweithiau yn eu lle i sicrhau bod cynnydd yn cael ei fesur a’i adrodd yn gywir.
Cydnabyddir bod dulliau effeithiol yn eu lle ar gyfer cyfathrebu â thenantiaid trwy ddefnyddio’r Tîm Gwelliannau Tai, y Panel Ymgynghorol Tenantiaid, grwpiau tenantiaid, T? Agored ac arolygon amrywiol. Fodd bynnag, teimlai’r cynghorwyr y byddai mwy o ddefnydd ar fecanwaith y Gr?p Ymgynghorol Adeiladu, fel a amlinellwyd yn y Cytundeb Gwaith Sylweddol. Gan mai ffordd brofedig yw hon o sicrhau bod contractwyr sy’n gweithio mewn lleoliad penodol yn gallu dod i adnabod y tenantiaid a’r aelodau a helpu i atal problemau rhag gwaethygu.
Codwyd rhai pryderon yngl?n â lefel yr wybodaeth sydd ar gael ar gynlluniau tymor hwy i alluogi tenantiaid ac aelodau i ddeall lle mae eu heiddo/wardiau yn y rhestr o flaenoriaethau’r rhaglen fuddsoddi. Ac awgrymwyd y dylid gwneud defnydd gwell o ffotograffau “cyn ac ar ôl” er mwyn cyhoeddi’r gwaith gwella.
Cyflwynwyd nifer o argymhellion i Aelod y Cabinet mewn llythyr. Ceir manylion llawn yr ohebiaeth ar dudalen cyhoeddiadau Craffu.
Leave a Comment