Cynhaliodd y Panel Perfformiad Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid ei gyfarfod blynyddol i graffu ar y gyllideb ar 10 Chwefror. Daeth y Cynghorydd Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth (Arweinydd), ynghyd â Ben Smith, y Prif Gyfrifydd i’r cyfarfod.
Diben y cyfarfod oedd i’r Panel ystyried adroddiad Cyllideb y Cabinet cyn cyfarfod y Cabinet ar 15 Chwefror er mwyn nodi rhai pwyntiau allweddol yr oedd y Cynghorwyr Craffu am ddod at sylw’r Cabinet.
Trafodwyd amrywiaeth o gwestiynau, ynghyd â’r amser a bennwyd ar gyfer cwestiynau gan y cyhoedd.Roedd y materion yr ymdriniwyd â hwy’n cynnwys:
- Y broses ymgynghori cyhoeddus ar y gyllideb ac adolygiadau comisiynu
- Ariannu parciau
- Swm yr arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a chlustnodi cyllidebau
- Ariannu’r gwasanaeth amgueddfa
- Stadiwm Liberty
- Defnyddio cydweithfeydd a busnesau cymdeithasol i gyflwyno gwasanaethau’r cyngor
- Taliadau diswyddo
- Grant Amddifadedd Disgyblion
- Adolygiad gwasanaeth cerbydau a adawyd
- Cynnydd i wasanaethau megis ffïoedd y gwasanaethau claddu ac amlosgi
- Costau lleoliadau priodas a hyrwyddo’r plasty fel lleoliad priodasau ategol
- Pwyslais ar Addysg a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng nghyllideb y cyngor
- Llunio modelau masnachol a masnachu
- Cynlluniau trosglwyddo asedau
- Costau ariannu cyfalaf
- Cau’r Ganolfan Croeso
- Gorfodi parcio mewn ardaloedd preswyl
- Ystyried cyfleoedd noddi eraill
- Cronfa diogelu Gofal Cymdeithasol
Yn benodol, roedd aelodau’r Panel am i’r Cabinet nodi eu bod yn teimlo unwaith y bydd canlyniadau’r Adolygiadau Comisiynu* niferus ar gael, yna dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol ar yr opsiynau gwahanol. Gofynnodd y broses Ymgynghori ar y Gyllideb gwestiynau arwyddocaol ynghylch a fyddai pobl yn barod i dalu am wasanaethau yn hytrach na’u colli. Fodd bynnag, roedd y Panel yn ystyried y dylai mwy o wybodaeth fanwl gael ei rhoi i bobl er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad llawn. Roeddent yn deall y byddai’r wybodaeth hon ar gael unwaith y bydd adolygiadau wedi’u cwblhau. Nododd y Panel hefyd y dylai’r paneli craffu perthnasol fod yn rhan o’r broses ymgynghori.
Yn gyffredinol, nododd aelodau’r Panel eu pryder cynyddol y gallai parhau â’r toriadau i gyllideb y cyngor arwain at sefyllfa tymor hir lle nad oes arian ar gael am unrhyw beth ar wahân i wasanaethau statudol h.y. Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg
Cytunodd yr Arweinydd i roi ymatebion ysgrifenedig i rai cwestiynau na allai eu hateb ar y dydd. Gwelir y rhain ym mhecyn agenda cyfarfod nesaf y Panel ar 9 Mawrth, ar y dudalen Cyhoeddiadau Craffu.
Daeth y Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd y Panel i Gyfarfod y Cabinet ar 15 Chwefror er mwyn rhoi barn y Panel.
*Mae adolygiad comisiynu’n ffordd o ddod o hyd i sut gellir cyflwyno gwasanaethau’r cyngor mewn ffordd gynaliadwy.Bydd yr adolygiadau’n helpu i nodi gwelliannau i wasanaethau, arbed costau a chreu incwm a gwella effeithlonrwydd. Mae rhaglen 3 blynedd o adolygiadau ar waith.
Leave a Comment