Bydd y Panel Ymchwiliad Craffu ar Fewnfuddsoddi yn cwrdd unwaith eto ar 3 Mawrth i edrych ar yr argymhellion sy’n weddill a sut mae ei adroddiad wedi cael effaith ar fewnfuddsoddi yn Abertawe a Dinas-ranbarth Bae Abertawe.
Dywedwyd wrth y panel mewn cyfarfod ym mis Gorffennaf 2015 bod ei adroddiad wedi rhoi ffocws ar sut ddylai Abertawe a’r Ddinas-ranbarth ehangach gael eu hyrwyddo a’u cyflwyno i ddarpar fuddsoddwyr. Roedd yr argymhellion yn cynrychioli elfennau allweddol proses effeithiol ar gyfer sefydlu a gweithredu ymateb a chefnogaeth i fewnfuddsoddi.
Ym mis Gorffennaf, roedd cynghorwyr yn hapus i glywed bod 6 o’r 12 argymhelliad wedi’u gweithredu gyda’r 6 sy’n weddill yn ymwneud yn benodol â chreu rhwydwaith cefnogi effeithiol ac adnoddau i helpu i greu ac ymateb i ymholiadau mewnfuddsoddi.
Bydd y panel yn olrhain y 6 argymhelliad sy’n weddill ar 3 Mawrth.
Leave a Comment