Mae panel ymchwiliad craffu newydd wedi dechrau sy’n edrych ar adeiladu cymunedau cynaliadwy trwy ddatblygu gweithredu yn y gymuned.Mae’r Panel yn canolbwyntio’n benodol ar sut gall y cyngor rhoi’r cefnogaeth orau i breswylwyr er mwyn iddynt gynnal rhai gwasanaethau yn eu cymunedau eu hunain.
Mae cynghorwyr wedi dewis edrych ar y testun hwn am y rhesymau canlynol:
- Er mwyn cynnal gwasanaethau lleol pwysig bydd angen i’r cyngor edrych ar wahanol ffyrdd o’u cyflwyno mewn modd radical. Bydd partneriaeth â chymunedau lleol yn cynnig ateb i gadw rhai gwasanaethau i fynd.Defnyddiwyd y term gweithredu yn y gymuned i esbonio peth o’r weithgaredd hwn.
- Mae angen i ni adeiladu a chefnogi cymunedau cynaliadwy oherwydd bydd hyn yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl ac yn lleihau costau gwasanaethau.
- Mae modelau presennol o gyflwyno gwasanaethau’n anghynaladwy, ac nid ydynt yn darparu’r canlyniadau gorau i bobl bob tro.
- Mae angen i ni adeiladu cymunedau cryf, grymus a chydlynol sy’n gallu uno phobl, dylanwadu ar wneud penderfyniadau ac arwain ar weithredu yn y gymuned, gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros fentrau a materion cymunedol.
Mae’r cyngor yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi gweithredu yn y gymuned. Mae Cynghorwyr Abertawe felly am glywed barn ystod eang o bobl er mwyn cynnig ffyrdd ymarferol o wella’r agenda gweithredu yn y gymuned.
Llwybrau Ymholi
Mae’r panel wedi dewis edrych yn benodol ar y llwybrau ymholi canlynol:
- Beth yw ystyr gweithredu yn y gymuned yn ymarferol
- Beth yw lefel y cefnogaeth sydd ei hangen
- Sut mae a sut bydd trosglwyddo gwasanaethau i gymunedau’n gweithio
- Sut bydd y newid hwn i wasanaethau, a’r gefnogaeth, yn cael eu hariannu
- Sut rydym/byddwn yn gweithio gyda chymunedau er mwyn datblygu gweithredu yn y gymuned
- Beth fu effaith gweithredu yn y gymuned hyd yn hyn
- Edrych ar arfer da yma ac mewn mannau eraill
- Edrych ar gynaladwyedd gweithgaredd gweithredu yn y gymuned.
Sut i fynegi’ch barn
Leave a Comment