Mae digonedd o arfer da wedi’i amlygu gan Estyn o ran ysgolion yn Abertawe, ac mae’r Panel Craffu ar Berfformiad Ysgol yn bwriadu dathlu hyn drwy ddigwyddiad arfer da ar 11 Chwefror. Bydd y panel yn siarad â dwy o ysgolion a ymatebodd i’r ‘alwad am arfer da’, sef Ysgol Gynradd Trallwn ac Ysgol Gynradd Craigfelen. Byddant hefyd yn edrych ar ymchwil sy’n amlygu arfer rhagorol yn Abertawe yn y sectorau cynradd ac uwchradd, yn ogystal â mannau eraill yng Nghymru. Bydd yr wybodaeth maent yn ei chasglu’n cael ei defnyddio i lunio rhai pwyntiau dysgu a gaiff eu hanfon wedyn at Aelod y Cabinet dros Addysg ar ffurf llythyr. Os ydych am fynd i’r cyfarfod hwn, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am graffu’n gyffredinol gallwch gysylltu â ni yn scrutiny@swansea.gov.uk
Leave a Comment