Cefnogi llywodraethwyr ysgol trwy adegau heriol

cover montageMae llywodraethwyr ysgol yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn, ond dim ond os oes ganddyn nhw’r wybodaeth, yr hyfforddiant a’r gefnogaeth angenrheidiol. Dyma brif neges adroddiad gan gynghorwyr craffu a gyhoeddwyd yr wythnos hon.

Gan ymateb i honiadau bod llawer o gyrff llywodraethu’n rhy gartrefol ac yn gweithredu fel ‘codwyr hwyl’ i’r pennaeth, mae nifer o fesurau wedi’u cynnig i fagu hyder llywodraethwyr ysgol.

Gellir lawrlwytho’r adroddiad; Rôl Heriol Iawn, yma.  Mae wedi’i lunio gan banel trawsbleidiol o gynghorwyr ac yn defnyddio barn arbenigwyr addysg, arolygwyr ysgol a llywodraethwyr ysgol eu hunain. Gweithiodd yr Athro Catherine Farrell, Prifysgol De Cymru, gyda’r panel fel ymgynghorydd arbennig.

Cyfrannodd tair ysgol arfer da dystiolaeth i’r ymchwiliad; Ysgol Gynradd yr Hafod, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt ac Ysgol Bryn Tawe.  Ymwelodd cynghorwyr â’r ysgolion hyn ac arsylwi ar eu cyfarfodydd llywodraethwyr i gael syniadau arfer da.

Y cwestiwn a ystyriwyd gan y panel oedd: Sut gall y cyngor sicrhau bod llywodraethwyr ysgol yn darparu her effeithiol i’w hysgolion?

Mae 1,300 o lywodraethwyr ysgol yn Abertawe. Mae’r panel yn awyddus i’w cydnabod a thalu teyrnged i’w gwaith gwerthfawr.  Gwneir y gwaith hwn yn wirfoddol er lles y plant yn eu hysgolion.

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i Gabinet y cyngor, gan gynnwys:

  • Arweiniad cliriach i lywodraethwyr am eu rôl a’r hyn y dylen nhw ei ddisgwyl
  • Dull ar gyfer paru llywodraethwyr newydd â’r cyrff llywodraethu â bwlch ar gyfer eu sgiliau penodol
  • Darparu gwybodaeth well i lywodraethwyr ar wefannau
  • Annog busnesau i ryddhau eu staff i wasanaethu fel llywodraethwyr ysgol

Meddai’r Cynghorydd Fiona Gordon, cynullydd y panel,

Mae rôl llywodraethwyr ysgol wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda llywodraethwyr yn chwarae rhan fwyfwy pwysig wrth reoli ysgolion a gwella ysgolion.

Mewn llawer o ysgolion, mae cyrff llywodraethu wedi ymateb i’r newid hwn, gan geisio ffyrdd newydd o sicrhau eu bod nhw’n addasu i ofynion newidiol ond, mewn eraill, mae hen ffyrdd o weithio’n parhau ac mae angen eu diweddaru. Mae rolau’n gallu bod yn sefydlog gyda diffyg holi ac eglurdeb am y rolau hynny ac mae perthnasoedd yn gallu bod yn rhy ‘gartrefol’ sy’n gallu effeithio ar y gallu i herio ysgolion ddigon.

Mae gan bob corff llywodraethu ddeinameg wahanol, yn union fel mae pob ysgol yn unigryw a nod yr adroddiad hwn yw amlygu egwyddorion arfer da cyffredinol y mae’r panel yn annog llywodraethwyr i’w hystyried.

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o syniadau arfer da ar gyfer cyrff llywodraethu megis:

  • Annog llywodraethwyr i ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth annibynnol megis gwefan Fy Ysgol Leol
  • Mentoriaid i helpu llywodraethwyr newydd
  • Cynnwys plant a staff mewn cyfarfodydd
  • Cysylltiadau cryfach â grwpiau a phrosiectau cymunedol
  • Hyfforddiant i’r corff llywodraethu lle bynnag y bo modd

Mae’r adroddiad hwn i’w gyflwyno i’r Cabinet ym mis Chwefror a disgwylir ymateb Aelod y Cabinet ym mis Ebrill.

Mae holl bapurau’r ymchwiliad craffu i lywodraethu ysgol i’w cael ar y dudalen cyhoeddiadau craffu trwy ddilyn y ddolen hon.

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.