Panel Ymchwilio Anweithgarwch Economaidd (Cynghorydd Arweiniol Chris Holley)
Cafodd ymchwiliad ei gwblhau yn ystod 2013 a ofynnodd, ‘Sut gallai’r cyngor a’i bartneriaid leihau anweithgarwch economaidd yn Abertawe?’ Gwnaeth adroddiad y Panel Ymchwilio Anweithgarwch Economaidd, ‘Di-waith nid Di-werth’, nifer o argymhellion i’r Cabinet ac ymatebwyd yn ffurfiol iddynt ym mis Mehefin 2014.
Roedd rhai negeseuon allweddol o’r ymchwiliad yn cynnwys:
- Mae angen cynnig cefnogaeth ymarferol i grwpiau targed penodol.
- Dylai’r holl grwpiau gael cyfleoedd am swyddi, hyfforddiant a phrentisiaethau.
- Dylai’r holl wasanaethau cyflogaeth gyflwyno gwybodaeth o safon a gwasanaethau hygyrch.
- Dylai’r cyngor ymyrryd yn gynt pan fydd pobl ifanc mewn perygl o fod yn NEET.
- Mae angen cyflawni gwaith o ran codi ac annog dyheadau pobl ifanc.
Ailymgynullodd y panel ar 24 Mehefin 2015 i ystyried effaith ei adroddiad a’i argymhellion ac a oedd gwaith y panel wedi gwneud gwahaniaeth.
Mae’r Ymchwiliad Craffu wedi dylanwadu ar gynnydd ar nifer o faterion:
- Gwaith cynlluniau fel Y Tu Hwnt i Frics a Morter, rhaglen Esgyn Cymunedau’n Gyntaf ac yn benodol y cynllun Gweithffyrdd, sy’n darparu cyfleoedd profiad gwaith â thâl ar gyfer cyfranogwyr.
- Ffurfio un pwynt mynediad i gasglu gwybodaeth ar gyfer ceiswyr swyddi. Mae menter ‘Hysbysu Abertawe’ wedi datblygu gwefan/e-borth sydd ar waith bellach.
- Parhau â’r gwaith a wneir gan y strategaeth ‘Cadw mewn Cysylltiad’ fel rhan o Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid neu Gynllun Gweithredu’r Fframwaith Blaenoriaeth.
- Datblygu prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop o’r enw ‘Activate your Potential’ y bwriedir iddo leihau nifer y plant 11-16 oed sydd mewn perygl o fod yn NEET. Nod y prosiect yw cynyddu ymwybyddiaeth o berthnasedd addysg ysgol i swyddi a ffyniant yn y dyfodol, gan godi dyheadau pobl ifanc mewn ysgolion.
- Cyflwyno digwyddiadau entrepreneuriaeth rheolaidd fel cystadleuaeth Dreigiau Busnes Ifanc i ddangos talent ifanc. Ffurfio consortiwm sy’n cynnwys dau fanc, y prifysgolion, Coleg G?yr a’r cyngor i greu ‘Cronfa Arian Cychwynnol Abertawe.’ Bydd hyn yn darparu symiau bach o arian a chryn dipyn o gefnogaeth fentora i bobl ifanc sydd am greu’u busnes eu hunain.
Cytunodd y panel fod ystyried adroddiad yr ymchwiliad wedi cyfrannu at waith pwysig o ran lleihau anweithgarwch economaidd yn Abertawe. Mae argymhellion yr adroddiad wedi cael effaith uniongyrchol ar gynnydd a chanlyniadau llwyddiannus nifer o brosiectau, cynlluniau a mentrau. Mae gwaith y Panel Ymchwilio Anweithgarwch Economaidd bellach wedi’i gwblhau ac mae monitro’r adroddiad am effaith yr ymholiad yn gyflawn.
Leave a Comment